West Ham 2 - 0 Abertawe

Swans
Image caption Roedd hwn yn un o berfformiadau gorau West Ham y tymor hwn

Mae Abertawe wedi colli'n erbyn West Ham diolch i ddwy gôl gan gapten yr Hammers, Kevin Nolan.

Dechreuodd y gêm mewn modd amddiffynnol wrth i West Ham aros yn ôl gan geisio eu lwc gyda pheli hirion i gwrt cost yr Elyrch.

Ceisiodd Abertawe chwarae eu gem basio, ond gwnaeth eu gwrthwynebwyr yn dda i'w hatal gyda'u tactegau corfforol.

Daeth gôl gyntaf Nolan ar ôl 20 munud. Dau o gyn hogiau Lerpwl wnaeth y gwaith adeiladu wrth i Andy Carroll lwyddo i gael ei ben ar gic gornel Stewart Downing.

Peniodd Carrol hi lawr i Nolan wnaeth ei ergydio i gefn y rhwyd wedi iddo'i rheoli mewn modd anarferol.

Ni fydd Michael Laudrup yn hapus wrth wylio'r uchafbwyntiau ar Match of the Day - doedd dim un crys gwyn ar gyfyl Carroll.

Roedd y dyn mawr yn cael gêm dda, yn ennill popeth yn yr awyr.

Ddim yn dysgu gwersi

Daeth Bony'n agos i'w gwneud hi'n gyfartal yn fuan wedyn ond llwyddodd Tomkins i'w daclo'n wych yn yr eiliad olaf.

Roedd Abertawe'n amlwg wedi anghofio'r wers dylen nhw fod wedi ei dysgu ar ôl y gôl gyntaf.

Bum munud o ddiwedd yr hanner cyntaf daeth cic gornel arall gan Downing, peniad arall gan Carroll a roedd Nolan yno i'w gorffen unwaith eto, i'w gwneud hi'n 2-0.

Roedd Ashley Williams ar fai am adael i Carroll ddianc oddi wrtho, ac roedd y rheolwr ar fai am beidio â sicrhau bod rhywun ar y postyn agosaf.

Uchafbwynt yr ail hanner oedd Carroll yn cael cerdyn goch am daro Chico Flores efo'i fraich. Roedd y dyfarnwr i'w weld wedi gwneud y penderfyniad cywir.

Mae buddugoliaeth Sunderland dros Newcastle yn golygu mai dim ond dau bwynt i ffwrdd o'r tri olaf mae'r Elyrch, er eu bod nhw'n 11fed yn y tabl.

Bydd y pwysau ar Laudrup yn siŵr o gynyddu os na wnaiff eu perfformiadau wella'n fuan.