Gŵyl Dinefwr: cyhoeddi enwau'r sêr

Parc Dinefwr Image copyright National Trust
Image caption Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ym Mharc Dinefwr

Y comedïwr Bridget Christie, y bardd a'r awdur plant, Helen Dunmore, y gantores Charlotte Church a'r anturiaethwr Eric Jones yw rhai o'r bobl fydd yn cymryd rhan mewn gŵyl lenyddiaeth yn Ninefwr yr haf yma.

Mae'r wŷl ddwyieithog, sydd yn para tri diwrnod, yn cael ei chynnal ar safle Parc a Chastell Dinefwr wrth ymyl Llandeilo. Yn ôl y trefnwyr mae'r wŷl yn cynnig rhywbeth i'r teulu cyfan gan gynnwys teithiau cerdded, cerddoriaeth fyw, celf, sinema a gweithgareddau i blant.

Enwau eraill sydd wedi eu cadarnhau ar gyfer yr wŷl ym mis Mehefin ydy'r bardd Owen Sheers, y cyflwynydd a'r DJ Huw Stephens, Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke a'r gyflwynwraig radio, Beti George.

Perfformio yn y castell

Yn Nhŷ Newton, sef adeilad sydd yn dyddio nôl i'r 17eg ganrif mae llawer o'r digwyddiadau ac eleni, bydd y castell yn cael ei ddefnyddio fel llwyfan ar gyfer perfformiadau cerddorol. Dydy enwau'r holl gerddorion fydd yn perfformio ddim wedi'u cyhoeddi eto ond ymlith y rhai sydd wedi dweud y byddan nhw'n chwarae y mae'r ddeuawd, Trwbador a'r band gwerin, Plu.

Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sydd yn trefnu Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr. Maen nhw hefyd yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru yn dweud bod na frwdfrydedd ar gyfer y penwythnos yn yr haf:

"Rydym ni'n lwcus iawn i gael defnyddio lle mor brydferth i gynnal ein gŵyl.

"Mae'r golygfeydd godidog a'r hanes diwylliannol sy'n amgylchynu'r hen safle fel niwl yn creu awyrgylch hudol iawn, lle gall pethau anhygoel ddigwydd.

"Gydag enwau newydd yn cael eu cyhoeddi bob wythnos mae'r rhaglen yn mynd yn well a gwell: allwn ni ddim aros tan fis Mehefin."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.