Ymosodiad Abertawe: Dyn yn y llys

Mae dyn o Abertawe wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o geisio lladd dynes 22 oed.

Fe awgrymodd Robert Lee Stevenson, 39, y bydd yn pledio'n ddieuog i gyhuddiad o ymosod ar Kathryn Amy Lawson yn ei gartref yn ardal Ravenhill brynhawn dydd Gwener.

Cafodd Stevenson ei gadw yn y ddalfa, a wnaeth o ddim cais am fechnïaeth.

Fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar Chwefror 11.