Hawliau maenorol: 800 mewn cyfarfod

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Daeth 800 o bobl i'r cyfarfod cyhoeddus ym Mhorthaethwy

Daeth tua 800 o bobl i gyfarfod cyhoeddus ar Ynys Môn nos Lun i glywed y diweddaraf mewn dadl am hawliau maenorol ar ddarnau o dir yn nifer o bentrefi'r ynys.

Wrth ddefnyddio'r teitl Arglwydd Treffos, mae dyn busnes o Sir Gaer - Stephen Hayes - wedi ysgrifennu at oddeutu 4,000 o drigolion yr ynys yn dweud ei fod wedi cofrestru'r hawliau dros ardal o 10,500 erw dros bentrefi Llanddona a Llanfairpwll.

Ond nos Lun roedd yna awgrym ei fod yn barod i ildio ei 'hawliau hanesyddol'.

Mae'r hawliau'n dyddio nôl i'r canol oesoedd ac yn rhoi'r hawl i'r perchennog hela, pysgota a chloddio am fwynau o dan y tir dan sylw.

Roedd gan feddianwyr yr hawliau tan ddiwedd Hydref 2013 i gofrestru eu bod am gadw'r hawliau.

Cafodd y cyfarfod cyhoeddus nos Lun ei gynnal yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.

Cafodd y mater ei drafod yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Ionawr pan godwyd dadl ar y pwnc gan aelod seneddol Ynys Môn, Albert Owen.

Mae aelod cynulliad yr ynys, Rhun ap Iorwerth, hefyd wedi codi'r mater yn y Senedd ym Mae Caerdydd ac ef a drefnodd y cyfarfod nos Lun.

Cyn y cyfarfod fe awgrymodd Mr Hayes ei fod yn y broses o ildio'i hawl, ond mynnodd Mr ap Iorwerth na fyddai pobl yr ynys yn fodlon tan eu bod yn derbyn hysbysiad swyddogol o hynny gan y Gofrestrfa Tir.

Mae pobl leol yn bryderus y bydd bodolaeth yr hawliau yn effeithio ar werth eu cartrefi a'u gallu i gael morgeisi ac ati yn y dyfodol.

Mae rhai hefyd yn poeni y gallai'r hawliau gael eu defnyddio i gloddio am nwy siâl o dan dir eu cartrefi.

Yn wreiddiol dywedodd Mr Hayes wrth y Gofrestrfa Tir ei fod yn gwrthwynebu ceisiadau'r trigolion i ddiddymu ei hawliau er mwyn "gwarchod ei fuddsoddiad" yn y mater.

Fe fydd gan berchnogion cartrefi hyd at ddiwedd Chwefror i ystyried brwydro Mr Hayes.

Straeon perthnasol