Dyn yn 'lwcus iawn' wedi cwymp ar yr Wyddfa

Yr Wyddfra Image copyright Eric Jones
Image caption Mae arbenigwyr yn rhybuddio cerddwyr eu bod nhw angen yr offer cywir i ymdopi â'r tywydd gaeafol ar y mynydd

Mae cerddwr ddisgynodd 200 troedfedd ar yr Wyddfa yn yr eira a'r rhew wedi bod yn "lwcus iawn" yn ôl y tîm achub.

Doedd gan y dyn ddim yr offer cywir i ddringo'r mynydd yn y tywydd rhewllyd ddydd Llun, gan nad oedd ganddo bicell iâ na heyrn dringo.

Fe gafodd y dyn, oedd yn eu 20au ac yn dod o Lundain, ei gludo gan hofrennydd yr Awyrlu i Ysbyty Gwynedd.

Fe gwympodd ei gyfaill, hefyd, gan frifo ei benglin. Fe gerddodd o oddi ar y mynydd gyda chymorth tîm achub mynydd Llanberis.

Dywedodd un o'r criw achub am y dyn gafodd ei gludo i'r ysbyty: "Roedd o wedi cael cryn godwm, ond dydy'n ni ddim yn meddwl ei fod wedi cael anafiadau difrifol. Mae o'n lwcus iawn."

Fe rybuddiodd y tîm fod yn rhaid i gerddwyr ddod â'r offer cywir i ddringo'r mynydd yn y tywydd gaeafol.