Warburton i arwain Cymru

Sam Warburton Image copyright Getty Images
Image caption Daeth Sam ar y cae fel eilydd yn erbyn yr Eidal dydd Sadwrn

Mae Warren Gatland wedi dewis y blaenasgellwr Sam Warburton i arwain Cymru yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ddydd Sadwrn.

Daeth Warburton ymlaen fel eilydd yn y fuddugoliaeth o 23-15 yn erbyn yr Eidal.

Bydd Justin Tipuric ar y fainc.

Mae Gatland wedi gwneud dau newid arall i'r tîm.

Bydd Gethin Jenkins yn dychwelyd yn lle Paul James, tra bod Andrew Coombs yn lle Luke Charteris sy'n dioddef gydag anaf i'w goes.

Does dim lle yn y garfan 23 dyn i Jonathan Davies, wedi iddo ymuno â'r garfan hyfforddi'r wythnos hon yn dilyn anaf yn ystod gemau'r Hydref y llynedd.

CYMRU: L Halfpenny (Gleision); A Cuthbert (Gleision), S Williams (Scarlets), J Roberts (Racing Metro), G North (Northampton); R Priestland (Scarlets), M Phillips (Racing Metro); G Jenkins (Gleision), R Hibbard (Gweilch), A Jones (Gweilch), A Coombs (Dreigiau), A-W Jones (Gweilch), D Lydiate (Racing Metro), S Warburton (Gleision, capt), T Faletau (Dreigiau).

EILYDDION: K Owens (Scarlets), P James (Bath), R Jones (Scarlets), J Ball (Scarlets), J Tipuric (Gweilch), R Webb Gweilch), J Hook (Perpignan), L Williams (Scarlets).

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC