Bradley Davies yn gadael y Gleision am Wasps

Bradley Davies Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bradley Davies yw'r diweddaraf o garfan Cymru i ymadael

Mae rhanbarth rygbi'r Gleision wedi cadarnhau y bydd clo Cymru Bradley Davies yn gadael i ymuno â chlwb Wasps ar ddiwedd y tymor.

Mae'r blaenwr ail reng o Lantrisant wedi ennill 42 o gapiau dros Gymru, a bu'n chwarae i dîm cynta'r Gleision ers 2006.

Wrth gyhoeddi ei ymadawiad, dywedodd cyfarwyddwr rygbi'r Gleision, Phil Davies:

"Mae Bradley wedi bod yn broffesiynol dros ben yn ystod ei gyfnod gyda'r Gleision.

"Mae'n chwaraewr tîm heb ei ail ac yn aelod poblogaidd iawn o'r garfan, a bu'n was ffyddlon i'r rhanbarth.

"Rydym yn siomedig o weld Bradley'n gadael ac yn dymuno'r gorau iddo fe a'i deulu i lawr yn Llundain.

"Rwy'n siŵr y bydd yn llwyddo o dan adain Dai Young (hyfforddwr Wasps)."

Dywedodd Bradley Davies ei hun: "Rwyf wedi bod gyda'r Gleision ers yn 17 oed, ac mae gen i ddyled fawr i bawb yma, ond mae'n gyffrous iawn i mi gael mynd i chwarae mewn cynghrair newydd gyda chlwb newydd."

Straeon perthnasol