Dynladdiad: 12 mlynedd o garchar

Nicole a Jorge Reyes Image copyright Arall
Image caption Roedd Reyes wedi gwadu cyhuddiad o ladd ei gŵr

Mewn llys yn y Weriniaeth Ddominicaidd mae menyw 37 oed o Gaerdydd, Nicole Reyes, wedi ei charcharu am 12 mlynedd oherwydd dynladdiad ei gŵr.

Bu farw Jorge Quintanilla Reyes, 38 oed, yng Ngorffennaf 2012.

Yn y llys yn Santiago roedd hi wedi gwadu'r cyhuddiad ac wedi honni ei bod wedi taro yn erbyn olwyn gefn beic modur ei gŵr ar ddamwain pan oedd yn gyrru ei char.

Dywedodd ei mam, Jeanette Clements, fod effaith penderfyniad y barnwr yn ysgytwol.

"Mae hwn yn gamwedd," meddai.

"Bydd y teulu'n apelio yn erbyn y dyfarniad."

Roedd Reyes wedi bod yn y ddalfa ers Gorffennaf 2012.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydym yn cadw golwg ar y sefyllfa ac yn dal i gynnig help i Reyes a'i theulu."

Straeon perthnasol