Ffrae am fynediad anabl i wylio gêm rygbi rhyngwladol

Parc Eirias
Image caption Parc Eirias ym Mae Colwyn

Mae ffrae wedi codi rhwng Cyngor Conwy a dyn anabl dros fynediad cadair olwyn i gae rygbi Parc Eirias ym Mae Colwyn.

Cododd yr anghydfod yn ystod cyfnod gemau tîm dan 20 Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dywedodd Gwilym Barry Jones, sydd yn ddefnyddio cadair olwyn, ei fod yn cael defnyddio maes parcio tu ôl i'r prif eisteddle i wylio gemau cartref Rygbi Gogledd Cymru 1404 yno.

Mae hyn yn golygu mai dim ond pellter bychan sydd ganddo i wthio ei gadair.

'Ochr arall y cae'

Ond, oherwydd y gêm rhyngwladol, roedd y maes parcio hwnnw ynghau a'r un agosaf iddo ei ddefnyddio oedd un wrth Ganolfan Hamdden Bae Colwyn ar ochr arall y cae.

Roedd hyn yn golygu gwthio'r gadair olwyn trwy adeilad y ganolfan, i lawr i'r trac rhedeg, hanner ffordd o gwmpas y trac ac yna i fyny llethr i ben yr eisteddle, lle mae rhan wedi cael ei neilltuo i bobl mewn cadair olwyn.

Dywedodd Mr Jones - sy'n dod o Landrillo-yn-Rhos - ei fod o wedi cwyno am y sefyllfa ers tair blynedd a does dim wedi digwydd i wella pethau. "Does ganddyn nhw ddim diddordeb yn fy nghwynion am y cyfleusterau i'r rhai sy'n defnyddio cadair olwyn.

"Mi wnes i dderbyn e-bost yn dweud bod bob dim wedi cael ei ddatrys ond dydy hyn ddim yn wir.

"Mae nhw'n edrych ar eich hôl yn Stadiwm y Mileniwm," meddai Mr Jones.

Ymatebodd John Hardy, pennaeth adran hamdden Cyngor Conwy: "Rydym wedi treialu a chyflwyno nifer o addasiadau i fynediad a threfniant i weld y gemau i bobl anabl ac rydym wedi cynnig cyfarfod Mr Jones cyn y gêm nesaf i drafod be' arall allwn ni ei wneud."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.