Ymchwiliad wedi marwolaeth yng Ngharchar y Parc

Carchar y Parc
Image caption Bu farw'r carcharor yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae ymchwiliad wedi ei dechrau wedi i garcharor farw yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Daeth swyddogion o hyd i Mohamoud Ali, 36, yn ddiymateb yn ei gell am tua 7:00am fore Sadwrn, Chwefror 1.

Dywedodd y Gwasanaeth Carchardai: "Ceisiodd staff berfformio CPR ac roedd parafeddygon ar y safle, ond bu farw am 7:49am.

"Fel gyda phob marwolaeth mewn carchardai, bydd Ombwdsmon Carchardai a Phrawf yn cynnal ymchwiliad."

Straeon perthnasol