Llafur yn 'blaid wrth-ddatganoli,' medd AS Ceidwadol

Glyn Davies
Image caption Yn ôl Glyn Davies, mae'r Blaid Lafur bellach yn wrth-ddatganoli

Mae'r dyn fyddai'n Ysgrifennydd Cymru petai Llafur yn ennill yr etholiad nesaf wedi dweud nad yw ei blaid yn cefnogi datganoli pwerau i amrywio treth incwm i Gymru.

Wrth roi tystiolaeth i'r Uwch-Bwyllgor Cymreig, dywedodd Owen Smith nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am y pŵer hwnnw ac na fyddai'n ceisio ei gael yn y dyfodol.

Yn ôl yr AS Glyn Davies, roedd hyn yn gyfystyr â dweud bod Llafur bellach yn "blaid wrth-ddatganoli".

Roedd Elfyn Llwyd o Blaid Cymru hefyd yn feirniadol, gan gyhuddo Mr Smith o ddangos diffyg uchelgais "syfrdanol" dros Gymru.

'Trap'

Dadl Mr Smith oedd bod Llafur ddim eisiau cefnogi trosglwyddo pŵer i Lywodraeth Cymru os na fyddai hynny o fudd i Gymru.

"Mae'r Prif Weinidog [Carwyn Jones] wedi bod yn eithriadol o glir. Ni ofynnodd am bwerau i amrywio treth incwm.

"Dyw e ddim yn ystyried hynny fel blaenoriaeth i Gymru. Dyw e ddim yn meddwl y byddai hynny'n angenrheidiol o fudd i Gymru ac ni fydd yn ceisio cael y pŵer i amrywio treth incwm yn y dyfodol.

"Rydym yn pryderu mai trap yw hyn i bobl Cymru gan y Blaid Geidwadol.

"Y trap yw y byddai llywodraeth Dorïaidd yn defnyddio hyn fel esgus i ddweud wrth Gymru: 'os ydych chi eisiau gwasanaethau mwy gwerthfawr yng Nghymru, os ydych yn teimlo bod angen i chi drefnu darpariaeth well i bobl Cymru, talwch amdanyn nhw eich hunan ...'"

Ychwanegodd AS Llafur Casnewydd Paul Flynn bod "rhaid bod yn wyliadwrus os yw Torïaid yn cynnig anrhegion".

Fe wadodd Ysgrifennydd Cymru David Jones mai "trap" fyddai trosglwyddo'r pwerau treth.

'Mantais anferth'

Dywedodd fod Llafur wedi newid eu polisi ynghylch y mater ac na fyddai rhaid i Lywodraeth Cymru amrywio cyfradd y dreth os oedd pwerau'n cael eu trosglwyddo.

"Mi fyddai yna fantais anferth yn nhermau atebolrwydd," meddai Mr Jones.

Honnodd Mr Davies fod Llafur wedi "chwalu argymhellion Comisiwn Silk yn llwyr".

Dywedodd Mr Llwyd mai'r broblem oedd "codi rhwystrau er mwyn atal rhoi pwerau ariannol i Gymru fyddai'n cryfhau ac yn grymuso'r wlad".

Straeon perthnasol