Abertawe 3-0 Caerdydd

Wayne Routledge yn sgorio i Abertawe Image copyright PA

Fe wnaeth Garry Monk ddechrau ei yrfa fel pennaeth Abertawe gyda buddugoliaeth yn erbyn eu gelynion pennaf yn Stadiwm Liberty.

Fe wnaeth Monk gymryd yr awenau ar ôl i Michael Laudrup gael ei ddiswyddo nos Fawrth.

Roedd hon yn gêm yn bwysig i'r ddau dîm ar wahân i'r ffaith ei bod yn gêm ddarbi.

Ar ddechrau'r dydd, dim ond tri phwynt o wahaniaeth oedd rhwng Caerdydd ac Abertawe, gyda'r ddau am osgoi cwympo i'r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor.

Dechreuodd yr Elyrch ar dân, gyda'r dorf yn bloeddio am gic o'r smotyn ar ôl dim ond dau funud o chwarae.

Fe ddaeth y bêl i Bony ond roedd Marshall yn y gôl yn ddigon effro gan ymestyn ei ddwylo i gymryd y bêl o droed yr ymosodwr.

Record anffodus

Abertawe oedd yn pwyso yn y chwarter awr agoriadol ond yna daeth cyfle da i Gaerdydd, Kenwyne Jones yn dod yn agos ar ôl croesiad Bellamy.

Wrth i'r egwyl agosáu, daeth cyfle i Wayne Routledge ond cafodd ei ergyd o arbed gan Marshall.

Doedd Routledge heb sgorio ers 37 o gemau, ond daeth diwedd i'r record anffodus ar ôl llai na dau funud o'r ail hanner.

Ei ergyd yn canfod gwaelod dde'r rhwyd.

Fe wnaeth Caerdydd bron â tharo nôl yn syth, gyda rhediad ac yna ergyd Bellamy o 25 llath yn taro'r croesbren.

Yna wrth i'r gêm dynnu tua'i therfyn, roedd Kim yn wastraffus gyda chyfle euraid o flaen y gôl.

Cafodd hynny ei gosbi funudau'n ddiweddarach, gyda pheniad Nathan Dyer yn taro cefn y rhwyd ar ôl 78 munud.

Penaid Wilfried Bony o ganol y blwch cosbi ar ôl 84 munud sicrhaodd y fuddugoliaeth i Abertawe.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Abertawe yn 10fed yn yr uwchgynghrair, gyda 27 pwynt, tra bod Caerdydd yn olaf ond un ar 21 pwynt

ABERTAWE: Vorm, Rangel, Davies, Britton, Chico, Williams, Dyer, De Guzmán, Bony, Emnes, Routledge.

CAERDYDD: Marshall, Fabio, John , Medel, Caulker, Turner, Bellamy, Whittingham, Jones, Kim, Zaha .