Wrecsam 1-2 Dartford

Fe ddaeth rhediad da diweddar Wrecsam i ben yn y Cae Ras gyda'r tîm cartref yn colli i dîm o waelodion cynghrair Skrill Premier.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen gyda gol Andy Pugh ar ôl i golgeidwad Wrecsam Andy Coughlin fethu a dal cic rydd.

Fe ddaeth y Dreigiau yn gyfartal wrth i Dartford fethu a chlirio cic cornel, gyda Joe Clarke yn sgorio i Wrecsam.

Ond ar ddiwedd yr hanner fe wnaeth Elliot Bradbrook sicrhau'r pwyntiau i Dartford.

Straeon perthnasol