Tavis Knoyle yn symud o Gaerloyw i'r Gleision

Bydd Tavis Knoyle yn symud o Gaerloyw i'r Gleision erbyn diwedd y tymor.

Mae'r mewnwr 23 oed wedi ennill 11 o gapiau i Gymru.

"Mae'n gyfle gwych i ni a gobeithio y bydd yn gyfle gwych i Tavis," meddai Cyfarwyddwr Rygbi'r Gleision Phil Davies.

Ar ôl chwarae i Gastell-nedd ymunodd â'r Scarlets yn 2009-2010 a chwarae i'r tîm cynta' 66 o weithiau.

Symudodd i Gaerloyw ar ddiwedd tymor 2012-13.

"Mae nifer o fewnwyr da yn y garfan, Lloyd Williams, Lewis Jones a Tomos Williams," meddai Davies.

"Ond mae Tavis yn wahanol ac mae angen dyfnder arnon ni."

Straeon perthnasol