Newid budd-dal yn 'gwastraffu' £40m, meddai cymdeithas dai

Judith Parker a'i phlant Emma, 21, a Luke, 17 Image copyright WWHA: Simon Ridgway
Image caption Judith Parker: 'Fe fyddwn i'n symud i rywle llai pe gallwn i'

Gallai newidiadau i fudd-dal tai i bobl anabl gostio £40m o arian cyhoeddus yng Nghymru, yn ôl un gymdeithas dai.

Meddai Tai Wales & West (WWH) - sy'n gyfrifol am 9,500 o gartefi - mae'r newid diweddar i fudd-dal tai yn effeithio'n wael ar denantiaid anabl yn arbennig.

Dywedodd llywodraeth San Steffan bod gan Gymru £7.9m o nawdd y gall denantiaid wneud cais am ran ohono.

Ond mae WWH yn dweud y gall addasu cartref i ateb gofynion pobl anabl gostio mwy.

Mae'r gymdeithas am i denantiaid anabl gael eu heithrio o'r newidiadau ddaeth i rym fis Ebrill diwethaf.

Mae WWH yn gofalu am gartrefi mewn dwsin o ardaloedd cyngor yng Nghymru, yn cynnwys Conwy, Wrecsam, Powys, Abertawe, Merthyr Tudful a Chaerdydd.

Dywedodd y gymdeithas bod tua 10% o'u tenantiaid gafodd eu hasesu a'u beirniadu am gael ystafell wely sbar, yn byw mewn cartref wedi ei addasu i berson anabl, a hynny'n costio tua £7,700 ar gyfartaledd.

Mae WWH yn amcangyfrif y bydd £575,000 wedi ei "wastraffu" ar addasu'r cartrefi hynny os oes rhaid i'r tenantiaid symud, ac yna gwario swm tebyg eto ar addasu'r tŷ newydd.

'Gwastraff amser ac arian'

Meddai'r arolwg, mae bron i hanner y bobl sydd wedi eu heffeithio ar ei hôl hi gyda thaliadau rhent ers y newid.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, gall bobl alw ar eu hawdurdod lleol am gymorth gan fod nawdd ar gael.

Ond mae WWH yn dweud fod hynny'n ychwanegu lefel arall o fiwrocratiaeth, ac mae'r gymdeithas wedi anfon yr arolwg at weinidogion, gan ddweud fod y system yn "wastraff anferth ar amser ac arian".

Ychwanegodd y gymdeithas bod ffigyrau gawson nhw gan 21 o 22 awdurdod lleol Cymru yn dangos bod tua 35,000 o gartrefi wedi'u heffeithio gan y newid i fudd-dal tai.

Pe byddai 10% o'r rhai hynny'n gartref i berson anabl, yna byddai angen gwario oddeutu £25m ar addasiadau, ac yna £15m arall ar addasu cartref llai i'r teulu symud iddo "pe byddai tŷ o'r fath ar gael".

Mewn llythyr yn ymateb i'r arolwg, dywedodd y Gweinidog dros Ddiwygio'r System Les, yr Arglwydd Freud, y byddai budd-dal tai wedi cynyddu i £25bn heb y newidiadau.

'Sefyllfa anodd'

Fe ychwanegodd y gallai tenantiaid ofyn am gyngor a nawdd, ond na ddylid chwilio am bres gan y cyngor i ddatrys pob broblem ariannol yn dilyn y newidiadau.

Yn cyfeirio at y taliadau gan gynghorau, dywedodd: "Mae gan y rhai sy'n gyfrifol am benderfyniadau yn lleol le i roi barn gytbwys am anghenion a blaenoriaethau, ac i dargedu adnoddau prin yn fwy effeithlon.

"Bydd y mesurau'n cael eu pwyso a'u mesur dros gyfnod o ddwy flynedd o fis Ebrill."

Meddai dirprwy brif weithredwr WWH, Shayne Hembrow: "Mae Cymru ar y ffordd i wastraffu o leia' £40m o arian cyhoeddus oherwydd y newid hwn.

"Mae'n hymchwil ni hefyd yn dangos bod dros hanner ein tenantiad anabl sy'n byw mewn cartrefi wedi eu haddasu ar ei hôl hi gyda thaliadau rhent yn dilyn y digwygiad.

"Ond mae'n sefyllfa anodd iawn i'r rhan fwya' ohonyn nhw, gan nad oes 'na ddigon o dai llai ar gael i bobl anabl symud iddyn nhw."

Straeon perthnasol