Scott Williams yn arwyddo cytundeb newydd gyda'r Scarlets

Scott Williams Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae cytundeb presennol Scott Williams yn dod i ben yn yr haf

Mae canolwr Cymru, Scott Williams wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r Scarlets.

Bydd ei gytundeb newydd yn ei gadw yng Nghymru tan ddiwedd tymor 2015/2016.

Roedd Williams, sy'n 23, wedi cael ei gysylltu gyda chlybiau y tu allan i Gymru, neu'r posibilrwydd o arwyddo cytundeb canolog.

Ond roedd wedi dweud ei fod yn gobeithio aros yng Nghymru.

"Rydw i'n falch iawn cael sicrhau fy nghytundeb gyda'r Scarlets ac i ymrwymo fy hun i rygbi yng Nghymru yn y dyfodol," meddai.

"Mae'n dda cael sicrhau'r holl beth nawr, i mi gael canolbwyntio ar fy rygbi a'r ymgyrch sydd o'n blaenau, gyda Chymru yn y Chwe Gwlad ac yn ôl yn y Pro12 hefo'r Scarlets."

'Hwb'

Dywedodd hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby bod sicrhau dyfodol Williams gyda'r Scarlets yn hwb i rygbi Cymru.

"Mae'n arwyddocaol ac yn bwysig i'n rhanbarth i gael ymestyn cytundeb Scott fel chwaraewr y gallwn adeiladu ein carfan o'i gwmpas," meddai.

"Wedi'r holl ddadlau am gadw ein chwaraewyr gorau yng Nghymru, mae'n hwb i rygbi Cymru bod un o'n chwaraewyr rhyngwladol gorau wedi dewis aros yma.

"Rydyn ni'n falch bod rhywun o'i allu a'i brofiad, ac sydd hefo teimladau cryf am y rhanbarth, wedi ymrwymo i aros yma yn y tymhorau i ddod."

Roedd cytundeb Williams, a'r maswr Rhys Priestland, yn dod i ben yn yr haf, ac roedd y ddau wedi cael eu henwi yn y rhestr o chwe chwaraewr y byddai Undeb Rygbi Cymru yn awyddus i'w harwyddo ar gytundebau canolog.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Rhys Priestland wedi cyfaddef bod ansicrwydd am ei ddyfodol wedi cael effaith arno

Mae Priestland wedi'i gwneud hi'n glir ei fod yn teimlo dan straen oherwydd yr holl ddyfalu am ei ddyfodol.

"Mae yn eich poeni chi be sy'n mynd i ddigwydd i'ch dyfodol," meddai'r chwaraewr 27 oed.

Sam Warburton oedd y cyntaf, a'r unig un hyd yn hyn, i arwyddo cytundeb gyda'r Undeb, tra bod dyfodol prop Cymru a'r Llewod, Adam Jones dal yn aneglur.

Fe gytunodd Alun Wyn Jones i ymestyn ei gytundeb gyda'r Gweilch ar ôl gwrthod cytundeb canolog URC.

Straeon perthnasol