Gŵyl lên yn dychwelyd am ail flwyddyn

Michael Morpurgo Image copyright Richard Cannon
Image caption Bydd yr ŵyl yn gorffen gyda darlleniad gan yr awdur Michael Morpurgo

Bydd Gŵyl Lên Plant Caerdydd eleni yn cynnwys perfformiad gan yr awdur Michael Morpurgo fydd yn darllen o'i lyfr War Horse.

Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal am yr ail flwyddyn ac yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus.

Yn eu plith bydd Siwan Rosser yn trafod llyfrau plant Cymraeg ac yn gofyn beth a ddywed y llyfrau hynny am Gymru a'r Gymraeg.

Bydd y digwyddiad hefyd yn nodi'r ffaith ei bod hi'n ganrif ers cyhoeddi'r llyfr i blant, Teulu Bach Nantoer.

Yn ogystal bydd Ceri Elen yn trafod ysgrifennu yn Gymraeg i oedolion ifanc.

'Cyffrous ac amrywiol'

Mae Helen Dunning yn rhan o'r pwyllgor sy'n trefnu'r ŵyl, a dywedodd : "Mae gennym raglen ffantastig arall fydd yn dathlu'r gorau yn llenyddiaeth plant yn dod i Gaerdydd ym mis Ebrill.

"Rydym yn gobeithio y bydd ein rhaglen gyffrous ac amrywiol yn cynnig rhywbeth a fydd yn apelio at bob plentyn.

"Rydym hefyd wrth ein boddau i fedru croesawu un sydd mor adnabyddus ym myd llyfrau plant.

"Bydd perfformiad Michael Morpurgo yng Nghanolfan y Mileniwm yn ddiweddglo teilwng i'r hyn rydym yn sicr y bydd yn ŵyl wych arall."

Bydd y cerddorion John Tams a Barry Coope yn ymuno â Mr Morpurgo i berfformio caneuon a gyfansoddwyd gan John Tams ar gyfer cynhyrchiad y National Theatre o War Horse.

Mae War Horse yn dilyn hanes milwr ifanc a'i geffyl yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ymhlith yr awduron eraill fydd yn ymddangos yn yr ŵyl bydd Eurig Salisbury, Aneirin Karadog a Huw Aaron.

Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn cael ei threfnu gan Gyngor Caerdydd, Llenyddiaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru.

Bydd yn cael ei chynnal rhwng 8 - 13 Ebrill 2014.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.