Refferendwm: Y ddadl yn chwerwi

Bathodynau
Image caption Mae'r iaith sy'n cael ei defnyddio yn y ddadl wedi bod mor lliwgar â'r bathodynnau yma ar adegau

Wrth i refferendwm yr Alban ar annibyniaeth agosáu mae'r ddadl rhwng y rheiny sydd eisiau gweld y wlad yn torri'n rhydd, a'r rheiny sydd eisiau gweld y Deyrnas Unedig yn parhau yn ei ffurf bresennol, yn chwerwi.

Ddydd Sul yn yr Observer, dywedodd Ysgrifennydd yr Alban Alistair Carmichael ei fod yn pryderu ynglŷn â'r ffaith bod cenedlaetholwyr yn ceisio tynnu llinell rhyngddyn nhw a'u cymdogion yn Lloegr.

Mae Mr Carmichael yn honni bod yr SNP a'u cefnogwyr yn siarad mewn termau sarhaus yn y ffordd maen nhw'n ymdrin â'r ddadl..

Ond cefnogwyr y DU sy'n gyfrifol am ddefnyddio tactegau brwnt yn ôl Blair Jenkins, Arweinydd Yes Scotland.

Yn y cyfamser, mae'r dadlau dros ba arian fyddai'n cael ei ddefnyddio mewn Alban annibynnol yn parhau, gyda phennaeth Banc Lloegr a gweinidog cyllid Llywodraeth yr Alban yn cyfnewid safbwyntiau ar y mater.

'Rhannu gwerthoedd'

Image caption Doedd Mr Carmichael (dde) ddim yn fodlon â sylwadau Mr Russell (chwith)

Yn ôl Mr Carmichael, mae'r cenedlaetholwyr yn "ceisio portreadu'r hyn fel gornest rhwng gwahanol werthoedd yn yr Alban a Lloegr".

Ymateb oedd hyn i sylwadau Gweinidog Addysg Llywodraeth yr Alban, Michael Russell, oedd wedi cyhuddo llywodraeth Prydain o fod yn senoffobig.

"Does dim set unffurf o werthoedd Albanaidd, fwy 'na mae yna set o werthoedd Saesnig," meddai Mr Carmichael.

"Un o'u tactegau nhw yw i siarad am 'Loegr' pan yn cyfeirio at y de ddwyrain a Llundain.

"Os ydych yn edrych ar batrymau pleidleisio fel arwydd o werthoedd pobl yna mae'n amlwg fod pobl yng ngogledd Lloegr a Chymru, a'r canolbarth, yn rhannu llawer o werthoedd pobl yr Alban."

Dywedodd hefyd bod pobl wedi ei alw yn 'gwisling', sef rhywun sy'n cydweithredu gyda'r gelyn.

'Sarhaus'

Image caption Cafodd Quisling (dde) ei ddienyddio am fradwriaeth

Mae'r gair yn tarddu o enw Vidkun Quisling, oherwydd iddo weithio gyda'r Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra'n arweinydd ar Norwy.

Dyw'r gymhariaeth ddim yn un addas, yn ôl ysgrifennydd yr Alban: "Mae'n sarhaus, nid yn unig i mi - mae gen i ysgwyddau llydan, fe alla i ei gymryd ef - ond i'n cymdogion, wnaeth ddioddef o dan reolaeth y Natsïaid.

"Mae cymharu sefyllfa'r Alban o fewn y DU i'w sefyllfa nhw yn sarhaus ac yn dangos diffyg synnwyr anhygoel."

Mae Arweinydd yr ymgyrch Yes Scotland, Blair Jenkins, wedi gwrthod beirniadaeth Mr Carmichael.

'Ochr arall ar fai'

Image caption Mae gwrthwynebwyr Alex Salmond wedi mynd rhy bell yn ôl Blair Jenkins (uchod)

"Gyda llaw ar fy nghalon, mae'r rhethreg, yr iaith dros ben llestri, wedi dod o'r ochr arall," meddai.

"Mae un gwleidydd [o blaid yr undeb] wedi siarad am roi'r cleddyf i'w gwrthwynebwyr fydd wedi eu hanafu ar ôl y refferendwm.

"Mae gwleidyddion o'r Alban a Lloegr wedi cymharu Alex Salmond gyda Mussolini, Hitler, y dyn 'na o Ogledd Korea a Mugabe. Does dim byd tebyg yn cael ei ddweud y ffordd arall."

Mae'r ddadl ynghylch gwerthoedd yn un bositif, yn hytrach nag un negyddol, yn ôl y dyn sydd a'r cyfrifoldeb o geisio sicrhau pleidlais 'ie'.

'Brwydro dros ein gilydd'

Image caption Mae'r SNP yn dweud y byddan nhw'n darparu gofal plant am ddim mewn Alban annibynnol

Meddai Mr Jenkins: "Un o'r pethau sy'n gyrru'r ddadl hon, sy'n gyrru'r refferendwm, yw'r ffaith bod pobl yn yr Alban eisiau gwneud mathau gwahanol o ddewisiadau ynglŷn â sut fath o gymdeithas maen nhw ei eisiau, sut fath economi sydd ganddyn nhw a sut fath o werthoedd maen nhw eisiau yn eu bywydau.

"Nid dadl sych am gyfansoddiad yr Alban yw hyn. Mae'n ymwneud â sut ydyn ni, fel cymuned ac fel cymdeithas, eisiau byw.

"Mae'r Alban wastad wedi cynhyrchu entrepreneuriaid ac rydym yn gweld gwerth yn hynny, pobl sydd yn gallu tyfu eu busnesau eu hunain.

"Ond rwy'n credu bod synnwyr cryfach yma ein bod yn brwydro dros ein gilydd ac angen cymdeithas lle rydym yn edrych ar ôl ein gilydd a lle nad yw pobl yn cael eu gwthio i'r ochr a'u gadael allan. Mae hyn yn rhan bwysig o'r ddadl."

Wltimatwm Bourne?

Image caption Bu Nick Bourne yn arwain y Ceidwadwyr yn y Cynulliad rhwng 1999 a 2011

Cafodd dadl ei chynnal yn Nhŷ'r Arglwyddi'n ddiweddar, gyda dau Arglwydd adnabyddus Cymreig yn rhoi rhesymau gwahanol iawn dros wrthwynebu cynlluniau Mr Salmond.

Un ohonynt oedd Nick Bourne, gafodd ei wneud yn Arglwydd ym Medi 2013 - bydd cyfraniad yr Arglwydd Roberts yn cael ei drafod mewn erthygl arall.

Dywedodd Mr Bourne fod cynnig Mr Salmond i gadw'r bunt petai'r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth yn "anhygoel o beryglus".

Mae pennaeth Banc Lloegr, Mark Carney wedi bod yn siarad am y problemau sy'n ymwneud â rhannu arian yn ddiweddar hefyd.

Mewn araith yng Nghaeredin yn ddiweddar, dywedodd y byddai rhaid i gytundeb ariannol gael sêl bendith llywodraeth San Steffan.

'Ildio sofraniaeth'

Image caption Mr Carney yw Llywodraethwr Banc Lloegr ers Gorffennaf 1, 2013

A byddai hynny, yn ôl Mr Carney, yn golygu y byddai rhaid i'r Alban "ildio ychydig o'i sofraniaeth genedlaethol".

Dywedodd: "Os byddai trafodaethau o'r fath fyth yn digwydd, byddai angen iddyn nhw ystyried yn ofalus be mae'r economi'n awgrymu yw'r seiliau hanfodol ar gyfer undeb wydn, yn enwedig wrth feddwl am y peryglon clir o beidio cael y seiliau yma yn eu lle.

"Mae'r peryglon yna wedi cael eu dangos yn glir yn ardal yr Euro dros y blynyddoedd diwethaf gydag argyfyngau dyled sofran, cyllidebau'n torri oddi wrth ei gilydd a gwahaniaethau mawr mewn perfformiad economaidd.

"Mae ardal yr Euro nawr yn dechrau mynd i'r afael â'i ddiffygion sefydliadol, ond nes ymlaen, bydd rhaid i gamau sylweddol gael eu cymryd.

"Yn fyr, mae undeb ariannol gryf a llwyddiannus yn golygu ildio ychydig o sofraniaeth genedlaethol.

"Mae'n debygol y byddai trefniadau sefydliadol tebyg yn angenrheidiol er mwyn cefnogi undeb ariannol rhwng Alban annibynnol a gweddill y DU."

'Mater i'r ddwy lywodraeth'

Image caption Byddai annibyniaeth o fudd i'r Alban, yn ôl Mr Swinney

Beth oedd gan Mr Carney mewn golwg oedd bod yr Alban yn trosglwyddo ychydig o bŵer nol i'r DU - a nid y ffordd arall rownd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, John Swinney, ei fod yn falch fod Banc Lloegr wedi ymrwymo eu hunain i weithredu unrhyw drefniadau fyddai'n cael eu cytuno rhwng y ddwy lywodraeth.

Ond mae'n credu y byddai cytundeb o'r fath yn llawer mwy hafal na mae Mr Carney awgrymu.

"Ar ddiwedd y dydd, fel mae Mr Carney'n ei wneud yn glir, byddai ardal Sterling yn fater i'r ddwy lywodraeth gytuno arno.

"Ardal ariannol wedi ei rhannu yw'r ffordd synhwyrol ymlaen achos ei fod yn niddordeb economaidd yr Alban a gweddill y DU."

Ychwanegodd Mr Swinney y byddai gan Alban annibynnol lawer mwy o hunanreolaeth wedi pleidlais ie, beth bynnag fyddai'n digwydd o ran y trefniadau ariannol.

"Byddai Alban annibynnol yn gyfrifol am 100% o'i chyllid ein hunain, o'i gymharu â'r 7% o'r sylfaen treth rydym yn gyfrifol amdano ar hyn o bryd o dan ddatganoli.

"Byddai rhannu arian yn gweld Alban annibynnol yn cael rheolaeth o'i pholisïau treth, swyddi, nawdd cymdeithasol, mewnfudo a'r arian olew a nwy yn ogystal â nifer o faterion eraill er mwyn ein galluogi i dyfu ein heconomi, i greu swyddi a sicrhau cymdeithas decach a fwy llewyrchus."

Straeon perthnasol