Yn ei oed a'i amser

Ers dechrau eleni mae bron i ddeugain o arolygon barn wedi cynnal yn mesur poblogrwydd y pleidiau ar raddfa Brydeinig. Arolygon dyddiol YouGov i'r Sun yw eu hanner nhw ond mae'r patrwm yn rhyfeddol o gyson pa bynnag cwmni sy'n gyfrifol. Mae maint y fantais Llafur yn amrywio rhwng un a naw y cant - er ei bod hi'n debyg bod y naill ffigwr a'r llall yn eithriadau ystadegol.

Y pwynt pwysig yw nad oes 'na'r un arolwg wedi bod lle nad yw Llafur ar y blaen. Barnodd un arolwg ym mis Hydref y llynedd bod Llafur a'r Ceidwadwyr yn gydradd. Rhaid mynd yr holl ffordd yn ôl i Chwefror 2012 er mwyn canfod arolygon oedd yn gosod y Ceidwadwyr ar y blaen.

Dyw e ddim yn anghyffredin i wrthblaid bod ar y blaen am gyhyd ac yna colli etholiad ac er ei bod yn ymddangos yn ddigon gwydn dyw'r fantais Llafur ddim yn fawr.

Lle mae hynny'n ein gadael ni? Wel, mewn amgylchiadau arferol fe fyddai pawb yn crafu eu pennau ynghylch dyddiad yr etholiad gyda David Cameron yn pendroni p'un ai i alw etholiad eleni er gwaetha'r arolygon neu barhau gan ddisgwyl rhywbeth gwell i ddod.

Mae oedi yn gallu bod yn beth peryg. Oedi a cholli bu hanes Edward Heath, Jim Callaghan, John Major a Gordon Brown ac ymhob un o'r achosion hynny roeddynt mewn gwaeth cyflwr ar ôl pum mlynedd nac ar ôl pedair.

A fydd jincs y pumed flwyddyn yn clatsio Cameron? Ydy'r ffaith bod dyddiad yr etholiad wedi pennu pan gyrrhaeddodd Downing Steet yn gwneud gwahaniaeth? Dyw e ddim yn ymddangos felly i mi.

Mae'r holl broblemau sy'n tueddu taro llywodraeth heibio'i hoed a'i hamser yn dechrau effeithio ar hon. Mae'r cwpwrdd deddfwriaethol bron yn wag a'r meinciau cefn yn anniddig ac anystywallt. Gallai'r deuddeg mis nesaf deimlo'n hir iawn i David Cameron.

Yr un peth o'i blaid yw'r arwyddion o welliant yn yr economi - ond hyd yn oed yn y maes hwnnw mae'r twf economaidd yn wan o gymharu â'r cyfartaledd hanesyddol a phwy a ŵyr na ddaw rhiw gorwynt o Ewrop, Tsiena neu'r Unol Daleithiau i ddryllio'r hynny o welliant sy 'na.

Mae gen i deimlad efallai bod David Cameron yn difaru ei fod wedi ildio'r hawl i bennu dyddiad yr etholiad nesaf ond y realiti yw ei bod hi'n debygol bod y drefn o ddyddiadau penodedig ar gyfer etholiadau cyffredinol yn mynd i barhau yn y dyfodol.

Os felly fe fyddai'n llawer callach cynnal etholiadau bob pedair blynedd yn hytrach na phob pump. Dyw llywodraethau sydd wedi chwythu eu plwc o ddim mantais i neb yn enwedig i bwy bynnag sy'n eu harwain!