Damweiniau: pedwar yn yr ysbyty

Ystafell reoli
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 12.17pm.

Mae pedwar yn yr ysbyty oherwydd damweiniau ar ffordd osgoi brynhawn Iau.

Cafodd yr A467, ffordd osgoi Y Tŷ Du ger Casnewydd, ei chau am gyfnod wedi dau wrthdrawiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 12.17pm.

Roedd gyrwraig un o'r ceir wedi'i hanafu ac fe gludwyd hi i Ysbyty Brenhinol Gwent.

Wrth geisio cyrraedd safle'r ddamwain, fe gafodd plisman ei anafu mewn damwain arall ar yr A467 tua'r de.

Mae yntau wedi cael ei gludo i'r un ysbyty.

Dywedodd y gwasanaethau brys eu bod wedi defnyddio offer i ryddhau cydweithiwr iddo o gar BMW.

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi dweud: "Cafodd pedwar ambiwlans eu hanfon.

"Cafodd dau anafiadau difrifol a dau fân anafiadau ac mae'r pedwar yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd."