Tocynnau gêm Caer: Cyngor gan Heddlu i gefnogwyr Wrecsam

Wrecsa,
Image caption Mae cefnogwyr Wrecsam wedi derbyn Cyngor gan yr Heddlu am y gem ddarbi yn erbyn Caer

Mi fydd cefnogwyr clwb pêl droed Wrecsam yn gorfod prynu tocyn cyn teithio dros y ffin mewn bysiau swyddogol i'r gêm ddarbi fawr ym mis Ebrill, oherwydd pryderon yr Heddlu.

Ar Ebrill 19 mi fydd Wrecsam yn chwarae i ffwrdd yng Nghaer yng Nghyngrair Skrill.

Mae Grŵp Ymgynghorol Diogelwch, sy'n cynnwys Heddlu Gogledd Cymru, Sir Gaer a'r ddau glwb wedi cytuno bydd y gêm yn cael ei chwarae am hanner dydd.

Meddai Llefarydd Heddlu Sir Caer: "Pwrpas y mesurau hyn ydi sicrhau bod yr ornest yn cael ei mwynhau gan gefnogwyr mewn ffordd ddiogel ac yn lleihau y potensial o aflonyddu busnesau a'r trigolion cyfagos.

"Mae 1,200 o docynnau wedi cael eu clustnodi i gefnogwyr Wrecsam a bydd rhaid iddynt deithio i'r cae mewn bws a drefnwyd yn swyddogol i'r cefnogwyr."

Bydd manylion trefniant y tocynnau ar wefannau y clybiau yn nes at yr amser.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.