Cymraes wedi marw ym Mwlgaria

Nina Holmes Image copyright Dean Herbert's facebook page
Image caption Roedd Nina Holmes, 33 oed o Gorseinon, ar wyliau ym Mwlgaria

Mae menyw 33 oed o ardal Abertawe wedi marw ar wyliau sgïo ym Mwlgaria.

Roedd Nina Holmes o Gorseinon ar wyliau gyda ffrindiau yng nghyrchfan poblogaidd Borovets pan aeth yn sâl ym mar BJ's nos Lun.

Fe'i cludwyd i'r ysbyty ar frys, ond doedd dim modd ei hadfywio.

Mae Heddlu De Cymru yn ymwybodol o'i marwolaeth, ac fe fyddan nhw'n cynorthwyo crwner Abertawe pan fydd y corff yn cael ei gludo yn ôl i Gymru.

Mae cyfeillion Ms Holmes wedi bod yn rhoi teyrngedau iddi ar wefannau cymdeithasol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad:

"Gallwn gadarnhau marwolaeth dinesydd o Brydain ar Chwefror 2 ym Mwlgaria.

"Rydym yn darparu cymorth gonsylaidd i'r teulu yn y cyfnod anodd yma."

Roedd adroddiadau blaenorol wedi dweud mai 22 oedd oed Nina.