Cyngor Caerdydd i gosbi gyrwyr?

Caerdydd
Image caption Mae Cyngor Caerdydd yn gobeithio gwella llif traffig drwy'r ddinas drwy gyflwyno mesurau newydd

Gallai Cyngor Caerdydd fod yr awdurdod lleol cyntaf y tu allan i Lundain i gael pwerau i gosbi gyrwyr am droseddau lle mae'r cerbyd yn symud.

Hyd yma mae awdurdodau lleol wedi medru gwneud cais am yr hawl i gosbi modurwyr am bethau fel parcio'n amhriodol a throseddau tebyg, ond yr heddlu'n unig sy'n medru cosbi gyrwyr am droseddau eraill.

Mae nifer o gynghorau Llundain wedi gofyn i lywodraeth y DU am yr hawl i gymryd y pwerau oddi ar yr heddlu.

Ond fel rhan o Ddeddf Cymru 2006, fe gafodd y grym i drosglwyddo pwerau o'r fath i awdurdodau lleol ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol, a Chyngor Caerdydd yw'r cyntaf i wneud cais am y pwerau.

Os fydd yn cael ei gymeradwyo, bydd yn golygu y gall swyddogion o'r cyngor gosbi modurwyr am droseddau fel aros ar gyffordd blwch melyn neu yrru'n ffordd anghywir ar lon unffordd.

'Cost niwtral'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r cabinet wedi cymeradwyo bod y Cyngor yn gwneud cais am bwerau gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno ystod eang o fesurau i wella llif traffig a lleihau tagfeydd yn y ddinas.

"Bwriad y mesurau yw sicrhau bod modurwyr yn gyrru'n gyfrifol ac yn unol ag egwyddorion sylfaenol Rheolau'r Ffordd Fawr.

"Os fydd Llywodraeth Cymru yn cytuno, bydd pwyslais arbennig yn cael ei roi ar weithredu lonydd bysiau er mwyn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg yn effeithlon ac yn ddewis deniadol i deithwyr.

"Mae gweithredu cyffyrdd blwch melyn hefyd yn angenrheidiol er mwyn osgoi tagfeydd difrifol sy'n niweidio llif traffig, ac i leihau rhwystredigaeth y mwyafrif o yrwyr sy'n gyrru'n gyfreithlon.

"Os fydd pawb yn cadw at y gyfraith ni fyddai angen gweithredu, ac ni fyddai incwm yn cael ei greu.

"Rydym yn rhagweld y bydd yr incwm sydd yn cael ei greu yn ddigon i dalu am gost gweithredu'r polisi, felly'r bwriad yw i hyn fod yn niwtral o safbwynt cost."

Pedwar mis

Daeth cadarnhad gan lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y rheolau sy'n caniatáu iddyn nhw drosglwyddo'r pwerau i awdurdodau lleol wedi cael eu trosglwyddo i Fae Caerdydd ym mis Mawrth y llynedd.

Dywedodd y llefarydd: "Nid ydym wedi derbyn y cais yn ffurfiol gan Gyngor Caerdydd hyd yma, ond rydym yn ymwybodol eu bod wedi cymeradwyo gwneud y cais.

"Rydym yn rhagweld y bydd y broses o ystyried y cais, ac yna'i gymeradwyo neu ei wrthod, yn cymryd oddeutu pedwar mis."

Mae nifer o gynghorau yn Llundain wedi cael yr hawl i roi cosb benodol i yrwyr gan ddefnyddio tystiolaeth o gamerâu traffig.

Fe wnaeth un camera ar gyffordd blwch melyn Bagley's Lane yn Fulham ddal 29,000 o yrwyr y llynedd gan ddod â dirwyon gwerth £2 filiwn i Gyngor Hammersmith a Fulham.

Tan i gais Cyngor Caerdydd gael ei gyflwyno'n ffurfiol, nid yw'n glir a fyddan nhw'n gofyn am yr hawl i ddefnyddio camerâu i weithredu'r pwerau arfaethedig.