Gohirio gêm arall i Gasnewydd

Rodney Parade Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Symudodd CPD Casnewydd i rannu cae Rodney Parade gyda'r Dreigiau a Chlwb Rygbi Casnewydd y tymor diwethaf

Mae'r gêm bêl-droed Adran 2 y gynghrair rhwng Casnewydd a Fleetwood oedd i fod i gael ei chwarae nos Wener wedi cael ei gohirio oherwydd cyflwr cae Rodney Parade.

Dyma'r pumed gêm o'r chwech diwethaf i gael ei gohirio yng Nghasnewydd.

Mae hynny'n gadael tipyn o gur pen i'r rheolwr Justin Edinburgh gan mai ychydig o le sydd yn yr amserlen i ail drefnu'r gemau gafodd eu gohirio.

Mae'r clwb yn rhannu'r cae gyda rhanbarth rygbi'r Dreigiau. Bydd archwiliad arall o'r cae ddydd Sadwrn cyn penderfynu a fydd modd chwarae gêm y Dreigiau yn y Pro 12 ddydd Sul yn erbyn Caeredin.

Gyda rhagolygon y tywydd dros y penwythnos yn ddrwg, mae pryder y bydd gêm nesaf Casnewydd yn erbyn AFC Wimbledon nos Fawrth yn cael ei gohirio.

Does dim dyddiad wedi ei drefnu eto ar gyfer chwarae'r gêm yn erbyn Fleetwood.

Eisoes mae prif weithredwr Casnewydd Dave Boddy wedi dweud bod gohirio nifer o gemau wedi bod yn "rhwystredig".

Ergyd ariannol

Dywedodd Mr Boddy: "Yn amlwg, mae gennym broblemau gyda'r cae ond mae'r tywydd gwlyb yn ddiweddar yn ddigynsail.

"Ar dri achlysur lle mae gemau wedi'u gohirio mae nifer o gemau eraill yn ardal y de-orllewin hefyd wedi diodde'.

"Mae'n rhwystredig iawn ac yn taro'r clwb mewn sawl ffordd.

"Ar y cae rydym wedi colli'r momentwm oedd gennym cyn y Nadolig, yr un oedd wedi ein codi i'r safleoedd ail gyfle.

"Mae'n ein taro'n ariannol hefyd - yn amlwg, mae colli incwm o bedair gêm yn mynd i gael effaith ar lif arian unrhyw fusnes."

Straeon perthnasol