Iwerddon v Cymru: Rhagflas

Rhys Priestland
Image caption Mae Rhys Priestland yn edrych ymlaen at frwydr agored

Bydd gêm fawr y penwythnos yn y Chwe Gwlad yn penderfynu os mai Cymru,neu Ierddon fydd yn parhau gyda'r gobaith o ennill y Gamp Lawn.

Llwyddodd y ddau dîm i guro'u gemau cyntaf - Cymru'n gwneud gwaith caled o guro'r Eidalwyr yng Nghaerdydd ac Iwerddon yn curo'r Alban yn hawdd yn Nulun.

"Newyddiadura ddiog" - dyna ddisgrifiad Warren Gatland o'r awgrymiadau fod y gêm hon yn gyfle i Brian O'Driscoll ddial arno ef am ei adael allan o dîm y Llewod.

Beth bynnag yw'r gwir am hynny, mae hon yn gêm y byddai'r tîm wnaeth Gatland eu harwain rhwng 1998 a 2001 wrth eu boddau yn ei hennill.

Dyw Cymru chwaith heb anghofio chwaith mai Iwerddon wnaeth eu hatal nhw rhag hawlio'r Gamp Lawn am yr ail dro yn olynol y llynedd.

Bydd naw o'r deg Cymro gafodd eu dewis gan Gatland i chwarae ym mhrawf olaf y Llewod yn dechrau yn Stadiwm Aviva, yn ogystal â thri arall aeth ar y trip sef Alex Cuthbert, Gethin Jenkins a'r capten, Sam Warburton.

Scott Williams yw'r dyn fydd a'r cyfrifoldeb o gadw Brian O'Driscoll dan reolaeth.

Brwydr arall i edrych ymlaen ati yw honno rhwng y rhifau deg - Rhys Priestland yn erbyn Jamie Sexton.

"Mae ef yn rif 10 y Llewod ac yn chwaraewr campus," meddai Priestland.

"Rydw i wedi chwarae yn ei erbyn nifer o weithiau ac rydym yn gwybod fel tim pa mor beryglus mae'n gallu bod, yn enwedig o ystyried y ddealltwriaeth sydd ganddo efo O'Driscoll.

"Mae'r ddwy reng ôl yn dalentog iawn. Mae pawb yn gwybod pa mor beryglus a phwerus mae'n cefnwyr ni'n gallu bod.

"Mae eu rheng ol nhw yn wahanol i'n un ni - pwy sydd i ddweud p'run yw'r gore?"

Iwerddon v Cymru, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2014; 2.30yh, Chwefror 8.

Iwerddon: 15-Rob Kearney, 14-Andrew Trimble, 13-Brian O'Driscoll, 12-Gordon D'Arcy, 11-Dave Kearney, 10-Jonathan Sexton, 9-Conor Murray; 1-Cian Healy, 2-Rory Best, 3-Mike Ross, 4-Devin Toner, 5-Paul O'Connell, 6-Peter O'Mahony, 7-Chris Henry, 8-Jamie Heaslip

Eilyddion: 16-Sean Cronin, 17-Jack McGrath, 18-Martin Moore, 19-Dan Tuohy, 20-Tommy O'Donnell, 21-Isaac Boss, 22-Paddy Jackson, 23-Fergus McFadden

Cymru:15-Leigh Halfpenny, 14-Alex Cuthbert, 13-Scott Williams, 12-Jamie Roberts, 11-George North, 10-Rhys Priestland, 9-Mike Phillips; 1-Gethin Jenkins, 2-Richard Hibbard, 3-Adam Jones, 4-Andrew Coombs, 5-Alun Wyn Jones, 6-Dan Lydiate, 7-Sam Warburton, 8-Taulupe Faletau

Eilyddion: 16-Ken Owens, 17-Paul James, 18-Rhodri Jones, 19-Jake Ball, 20-Justin Tipuric, 21-Rhys Webb, 22-James Hook, 23-Liam Williams

Dyfarnwr: Wayne Barnes (Lloegr)adael allan o dîm y Llewod.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC