Munster 54-13 Gleision

Casey Laulala yn mynd heibio Chris Czekaj Image copyright Inpho
Image caption Casey Laulala yn mynd heibio Chris Czekaj

e wnaeth Munster symud saith pwynt yn glir ar frig tabl Pro12 gyda buddugoliaeth ysgubol yn erbyn y Gleision.

Daeth tri o'r chwe chais tra bod prop y Gleision Patrick Palmer yn y gell cosb.

Ar yr egwyl roedd Munster ar y blaen o ddim ond 19-13, ond yna daeth y cyfnod allweddol gyda chais yr un i Simon Zebo a Gerhard van den Heever ynghyd a chais gosb.

Daeth cais y Gleision i Owen Williams, gan ddod ar ddau dîm yn gyfartal ar 10-10.

Daeth gweddill ceisiau Munster o Andrew Conway a CJ Standar, gyda JJ Hanrahan yn llwyddiannus gyda 10 cic.