Cost amddiffyn llifogydd yn anghynaladwy?

Fairbourne
Image caption Mae'r Friog sydd ar dir isel ger yr arfordir yn un o'r ardaloedd dan fygythiad

Mae rhaglen BBC Cymru wedi darganfod bod cynghorau yn troi eu cefnau ar rai o gymunedau arfordirol Cymru gan nad oes modd cyfiawnhau'r gost o gynnal amddiffynfeydd.

Gwadu hynny mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Alun Davies, gan ddweud nad ydi hyn yn rhan o'i gynllun i ddelio â'r broblem.

Ond mae rhaglen Week In Week Out wedi darganfod bod cynghorau yn derbyn bod rhaid colli rhannau o dir yr arfordir i'r môr, ac eisoes yn cynllunio ar gyfer hynny.

Mae disgwyl i'r Friog yng Ngwynedd wynebu gorfod encilio rhag y môr yn 2025. Mae'n un o 50 o gymunedau sydd ar restr o ardaloedd fydd yn gorfod encilio rhag y môr yn ystod y 45 mlynedd nesaf.

Gostwng gwerth cartrefi

Yn y Friog, bydd yn rhaid cefnu ar 400 o dai erbyn 2055 fel rhan o'r polisi.

Dywedodd Sonia Norton, 83 oed, sy'n byw yn y Friog, ar y rhaglen: "Dydy hyn ddim yn dda i'r dyfodol, i'r Friog fel cymuned sy'n ffynnu, gan na fydd pobl yn prynu yma.

"Mi fydd y bobl sydd eisoes yma jyst yn gweld y cyfan drwyddo."

Mae Murray Dodds, sy'n rhedeg rheilffordd y Friog, yn dweud: "Mae unrhyw fath o bolisi sy'n dweud bod pwynt terfyn yn amlwg yn mynd i ostwng gwerth tai yn yr ardal.

"Pwy fyddai am brynu tŷ mewn safle lle maen nhw'n gwybod na fydd yno ymhen 20 mlynedd?

"Ar ryw bwynt, mi fydd rhywun yn gwneud eu hunain yn amhoblogaidd iawn drwy ddweud 'dim mwy'."

Mae'r cyngor i encilio rhai cymunedau yn dod o Gynlluniau Rheoli Arfordir y cynghorau, sy'n creu strategaeth i'r dyfodol wedi ei selio ar amddiffynfeydd presennol, pwysigrwydd economaidd yr ardal a gwybodaeth am gynnydd yn lefel y môr.

"Costau amddiffyn yn rhy uchel"

Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn eu cynllun rheoli'r llynedd ac yn gweld na fedran nhw amddiffyn y Friog yn y tymor hir.

"Y cynllun yw ceisio cynnal y sefyllfa bresennol yn y tymor byr, ond yn y tymor hir, fe fydd yn rhaid i ni gael ardal encilio wedi'i reoli," meddai arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards.

"Dwi'n cydnabod y bydd pobl mewn sefyllfa anodd iawn, iawn. Fedrwn ni ddim eu gadael ar eu pen eu hunain, fe fydd yn rhaid i ni eu cefnogi nhw yn y dyfodol."

Image caption Byddai angen gwario £135 miliwn yn flynyddol ar amddiffynfeydd arfordirol erbyn 2035, dim ond i gynnal y lefel risg presennol, yn ôl adroddiad

Un o'r prif ffactorau yn arwain at y penderfyniad hwn ydi'r cynnydd yn lefel y môr, yn sgil newid i'r hinsawdd.

Dywedodd Mike Phillips, Athro mewn Geomorffoleg arfordirol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant bod y wyddoniaeth yn gweithio'n erbyn pentrefi tir isel fel y Friog.

Dywedodd: "Mae lefel y môr yn codi, ac mae'n golygu y bydd costau amddiffyn y lle yn rhy uchel.

"Fel gwyddonydd arfordirol, dwi'n credu ei bod hi'n iawn i ystyried encilio dan reolaeth fel opsiwn achos fedrwn ni ddim fforddio i amddiffyn ein harfordir o hyd."

Mewn cyfweliad â'r rhaglen, fe fynnodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Alun Davies, nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried encilio dan reolaeth ar hyn o bryd.

"Ar hyn o bryd, dydy encilio wedi ei reoli ddim yn rhan o'n cynllun polisi, ond mae eich pwynt na fedrwch chi wneud popeth, ym mhobman, ac na fedrwch chi gyllido popeth, ym mhobman, yn gwbl gywir."

Mae adroddiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2010 yn datgan y byddai angen gwario £135 miliwn yn flynyddol ar amddiffynfeydd arfordirol ac ar lifogydd erbyn 2035 yng Nghymru dim ond i gynnal y lefel risg presennol.

Fe fyddai adeiladu mwy o amddiffynfeydd, er mwyn tynnu pobl o ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd, yn golygu cynnydd blynyddol o £170 miliwn mewn gwariant erbyn 2035.

Bydd rhaglen Week In Week Out i'w gweld nos Fawrth, Chwefror 11 ar BBC 1 am 10.35yh.

Straeon perthnasol