Caerdydd 0-0 Aston Villa

Cardiff v Aston Villa Image copyright AFP
Image caption Er i Gaerdydd gael ambell gyfle, fe fydd ennill pwynt yn unig yn siom arall

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn dal yn waelod ond un yn nhabl yr Uwchgynghrair yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Aston Villa nos Fawrth.

Er mai gêm ddi-sgôr a welodd y dorf, doedd hi ddim yn gêm ddiflas o bell ffordd, ond unwaith eto golwr y tîm cartref David Marshall oedd yr arwr.

Bu'n rhaid i Gaerdydd ddechrau'r gêm heb Craig Bellamy wedi i'r Gymdeithas Bêl-droed gadarnhau gwaharddiad o dair gêm i'r ymosodwr am ymddygiad treisgar yn y gêm yn erbyn Abertawe ddydd Sadwrn.

Ond fe ddechreuodd Caerdydd gyda phwrpas i'w chwarae. Yn wir yr Adar Gleision gafodd y gorau o'r chwarae yn yr hanner cyntaf er i'r ddau dîm greu cyfleoedd.

Roedd Fabian Delph yn euog o fethu ambell gyfle i'r ymwelwyr, gyda Frakier Campbell a Kenwyne Jones yn methu i Gaerdydd.

Ond wedi'r egwyl roedd hi'n stori wahanol, ac Aston Villa oedd yn feistri gan bwyso'n barhaus.

Er i Brad Guzan - golwr Villa - arbed un cynnig gan Jones roedd Marshall yn llawer prysurach rhwng y pyst i Gaerdydd.

Daeth arbediad gwych wedi 76 munud wrth i Delph daro ergyd yn y cwrt cosbi ac roedd ymateb Marshall yn wyrthiol i wthio'r cynnig heibio'r postyn.

Ond daeth cyfle gorau'r gêm yn yr amser ychwanegwyd am anafiadau ar ddiwedd y 90 gydag ergyd Christian Benteke, ac roedd arbediad Marshall wrth daflu ei hun at yr ergyd yn anhygoel.

Yr unig gysur i Ole Gunnar Solskjær, rheolwr Caerdydd, yw bod dau o'r timau sydd o'u cwmpas yng ngwaelodion y tabl - Norwich a West Brom - wedi methu ennill nos Fawrth ac mae Caerdydd felly bwynt yn agosach at ddiogelwch diolch i'w golwr.