Bala'n chwalu'r Derwyddon

cwpan cymru

Mae hanes Derwyddon Cefn yng Nghwpan Cymru yn hir a disglair, ond fydd y clwb ddim yn ymddangos yn rownd nesa'r gystadleuaeth eleni yn dilyn chwalfa yn erbyn y Bala.

Roedd y tîm o Uwchgynghrair Corbett Sports yn llawer rhy gryf i'r ymwelwyr.

Cafodd y Derwyddon ddechrau gwael wrth i un o'u hamddiffynwyr rwydo i'w gol ei hun yn gynnar yn y gêm.

Ian Sheridan oedd arwr y tîm cartref wrth iddo sgorio hat-tric, gan sgorio dwy cyn yr egwyl.

Daeth y bedwaredd - a'r drydedd i Sheridan - pan rwydodd o'r smotyn, ac fe ychwanegodd Steve Brown y bumed cyn y diwedd.