Trafod hawlfraint cerddoriaeth mewn cynhadledd

Georgia Ruth Image copyright Eric van Nieuwland
Image caption Mae'r gynhadledd yn trafod arwyddocâd penderfyniad y tribiwnlys hawlfraint

Mae cynhadledd arbennig ym Mangor yn trafod y datblygiadau diweddaraf ym maes cyfraith hawlfraint ac effaith hyn ar gerddoriaeth Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol.

Roedd dyfarniad yn ddiweddar gan Dribiwnlys Hawlfraint yn yr achos rhwng y BBC ac Eos.

Y prif siaradwyr fydd yr Athro Ian Hargreaves, Athro'r Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Gwion Lewis, bargyfreithiwr a chwnsler Eos yn y tribiwnlys.

Bydd yr Athro Hargreaves yn trafod Gwleidyddiaeth Hawlfraint ac yn egluro egwyddorion ei adolygiad o gyfraith Eiddo Deallusol i Lywodraeth y DU tra bydd Gwion Lewis yn edrych yn ôl ar ddyfarniad y tribiwnlys a'i arwyddocâd i ieithoedd lleiafrifol.

Ym mis Rhagfyr 2013 fe benderfynwyd mai £100,000 ddylid ei dalu i artistiaid sy'n aelodau o Eos.

Roedd hyn lawer is na'r £1.5 miliwn roedd Eos wedi gobeithio ei gael.

Eos sy'n berchen ar hawliau darlledu miloedd o ganeuon Cymraeg, wedi i lawer o gantorion Cymraeg benderfynu ymuno â'r asiantaeth yn dilyn gostyngiad yn y gyfradd tâl oedden nhw'n ei dderbyn gan PRS.

Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor sy'n gyfrifol am drefnu'r gynhadledd 'Casglu a Gwarchod: Hawlfraint yn yr 21ain Ganrif a Cherddoriaeth Mewn Ieithoedd Lleiafrifol'.

'Ymchwil'

Cyfranwyr eraill fydd John Hywel Morris (PRS for Music), Kalev Rattus (EAU Estonia), Mark Hyland (darlithydd yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor), Deian ap Rhisiart a Steffan Thomas sy'n fyfyrwyr doethuriaeth sy'n ymchwilio i hawlfraint cerddoriaeth yng Nghymru.

"Gobeithiwn y bydd y gynhadledd hynod amserol yma yn ysgogi mwy o ddiddordeb a thrafodaeth ym maes hawlfraint yn gyffredinol yng Nghymru, ac yn arbennig felly o ran hawlfraint yng nghyd-destun ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol", meddai Carys Aaron, trefnydd y gynhadledd a darlithydd yn y gyfraith ym Mangor.

"Ein gobaith yw y bydd yn arwain at ymchwil pellach a mwy o arbenigedd cynhenid yn y maes yma yng Nghymru."

Straeon perthnasol