Apêl am dystion i ddamwain ar ffordd osgoi Felinheli

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn damwain ar ffordd osgoi Felinheli, fore dydd Mawrth Chwefror 11eg.

Roedd Vauxhall Astra glas gyda threlar wedi taro rhwystr ar yr A487. Derbyniodd y gyrwr mân-anafiadau.

Dywedodd Cwnstabl Geraint Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Digwyddodd y ddamwain tua 08.10 yn y bore.

"Mae yna ymchwiliad llawn wedi ei ddechrau.

"Buaswn yn hoffi unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu gyda mi ar 07810506373 gan ddyfynu'r cyfeirnod RC14020290."