Arglwydd Ti Wyt Darian i Mi

Mae'n arwydd o ddylanwad Kirsty Williams o fewn ei phlaid ei bod hi wedi llwyddo i ddarbwyllo Nick Clegg i ddyrchafu tri aelod o'r blaid Gymreig i Dŷ'r Arglwyddi ers etholiad 2010. Yn wir erbyn hyn mae gan Democratiaid Rhyddfrydol Cymru mwy o gynrychiolwyr yn y siambr uchaf yn San Steffan nac yn Nhŷ'r Cyffredin na'r Cynulliad.

Mae 'na saith ohonyn nhw i gyd yn gwisgo carlwm ac yn eistedd ar y meinciau cochion. Pump sydd yn y Cynulliad wrth gwrs a thri ar y meinciau gwyrddion.

Ond faint o arglwyddi Cymreig sy 'na yn y siambr gyfan? Fe geisiais i weithio hynny mas rhai dyddiau yn ôl ac mae'n dasg anoddach nac mae'n ymddangos.

Yn gyntaf sut mae diffinio 'Arglwydd Cymreig'? Fe benderfynais i fod yn hael ynghylch y diffiniad gan gynnwys pawb oedd wedi chwarae unrhyw ran ym mywyd cyhoeddus Cymru yn ystod eu gyrfaoedd. Mae David Hunt yn cyfri felly - er na fyddai'n ystyried ei hun yn Gymro.

Yn ogystal fe wnes i gynnwys pawb oedd wedi dewis cynnwys enw lle yng Nghymru yn eu teitlau. Mae pobl fel Geoffrey Howe o Aberafan a Garfield Davies o Goety i mewn felly er mai yn Lloegr y treulion nhw y rhan fwyaf o'u bywydau cyhoeddus. Es i ddim mor bell a chynnwys pobol sydd wedi etifeddu teitlau Cymreig ond sydd a fawr ddim cysylltiad â Chymru - pobl fel Arglwyddi Aberdâr a Cholwyn.

Dyw e ddim yn syndod efallai mai'r garfan Lafur yw'r garfan fwyaf gydag un ar bymtheg o arglwyddi Cymreig yn amrywio o gyn aelodau etholedig fel Neil a Glenys Kinnock i undebwyr llafur ac academyddion fel K.O Morgan. Yn ogystal â saith y Democratiaid Rhyddfrydol mae' na saith arglwydd Cymreig yn eistedd ar y meinciau croes, chwech ar y meinciau Ceidwadol a dau yn aelodau o Blaid Cymru.

Efallai fy mod wedi colli un neu ddau ond hyd yn oed a defnyddio fy niffiniad hael mae'r nifer o arglwyddi o Gymru yn llai na deugain - hynny allan o gyfanswm o 760.

Ydy Cymru wedi ei thangynrychioli felly? Wel mae deugain yn cynrychioli oddeutu 5% o'r cyfanswm felly mewn un ystyr mae Cymru'n cael oddeutu ei haeddiant Ar y llaw arall mae'n ymddangos bod y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru a llai na'u haeddiant - rhywbeth sy'n annhebyg o newid tra bod y system bresennol o ddewis aelodau'n parhau.

Yn y cyfamser mae'n debyg y bydd nifer y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn Nhŷ'r Arglwyddi yn fwy na chyfanswm aelodau seneddol a chynulliad y blaid cyn bo hir - boed hynny trwy ddyrchafu rhagor ohonyn nhw, ac mae 'na ddigon yn y ciw, coeliwch fi, neu drwy golli sedd neu ddwy yn etholiadau 2015 a 2016.