Carwyn Jones
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Delio'n weddol dda' gyda'r tywydd garw

13 Chwefror 2014 Diweddarwyd 10:47 GMT

Mae Prif Weinidog Cymru'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi "delio yn weddol o dda" gyda'r tywydd garw a darodd arfordir y gogledd a'r gorllewin ddydd Mercher.

Cofnodwyd gwyntoedd o dros 100mya mewn sawl man, gan arwain at gau nifer o ysgolion a ffyrdd.

Yn ôl Carwyn Jones, bydd angen disgwyl tan fod y tywydd wedi gwella cyn asesu cost y difrod.