Teyrngedau i 'gawr y cymoedd' Allan Pritchard

Allan Pritchard Image copyright Gareth Everett/Huw Evans Agency
Image caption Allan Pritchard: "gwleidydd ymroddedig' ac yn "ymgorfforiad o Gymro".

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i gyn-arweinydd Plaid Cymru Cyngor Caerffili, Allan Pritchard, fu farw wedi brwydr yn erbyn canser.

Roedd yn 71 oed ac yn flaenllaw yng ngwleidyddiaeth lleol y cymoedd am flynyddoedd.

Fe ddilynodd Lyndsay Whittle fel arweinydd y cyngor wedi i Mr Whittle gael ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2011.

Mae Mr Pritchard, oedd yn byw yn Oakedale, yn gadael gwraig, Pauline, dwy ferch, Kailey a Rhayna a thri o wyrion.

Dywedodd Mr Whittle, AC De Ddwyrain Cymru: "Treuliodd ddau dymor yn ddirprwy i mi pan o'n i'n arweinydd cyngor Caerffili ac fe ddaeth yn arweinydd ar fy ôl pan ges i fy ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

"Fe oedd cawr y cymoedd, wastad yn ymroddedig i wneud ei orau dros ei gymuned a thros y sir i gyd.

"Roedd Allan yn gerddor, bardd, chwaraewr rygbi dosbarth cyntaf, yn ddyn teulu ac yn genedlaetholwr. Roedd yn ymgorfforiad o Gymro.

"Fe fydda i'n colli ffrind agos yn fawr iawn."

'Gwasanaeth cyhoeddus'

Dywedodd Jocelyn Davies AC, fu'n gweithio gydag Allan ar hen gyngor Islwyn: "Ni wnaeth angerdd Allan dros ei bentref enedigol, Oakdale - yr oedd yn cyfeirio ato o hyd fel y ddinas ar y bryn - a thros ei gymuned a'i wlad fyth pylu yn ystod y cyfnod yna i gyd.

"Fe neilltuodd Allan ei fywyd i wasanaeth cyhoeddus gyda chefnogaeth a dealltwriaeth ei deulu anhygoel.

"Roedd yn wleidydd o ymroddiad oedd wastad yn fodlon mynd i'r afael â heriau a byth yn ofni penderfyniadau anodd. Roedd ei ymddeoliad yn gwbl haeddiannol ond yn anffodus, yn rhy fyr."

Dywedodd Colin Mann, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor, ei fod yn "gawr o ddyn, nid yn unig o gorff, ond yn ei bersonoliaeth a'i gredoau."

Yn ôl Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru: "Roedd ei ymroddiad, ei gred a'i allu i ysbrydoli a llenwi eraill â brwdfrydedd yn ddihafal tra bod ei hiwmor a'i gariad at fywyd yn heintus. Roedd wastad yn gefnogol i mi."

Dirprwy

Fe ymunodd Allan â Phlaid Cymru ym 1969 wedi Trychineb Aberfan ac fe gafodd ei ethol yn gynghorydd ar hen gyngor Islwyn ym 1970.

Fe adawodd yr awdurdod oherwydd dyletswyddau gwaith ym 1991 ond pan sefydlwyd Cyngor Sir Caerffili, fe benderfynodd sefyll eto ym 1999 ac fe enillodd ei hen sedd yn ward Penmaen.

Pan arweiniodd Plaid Cymru y cyngor yn 1999 fe gafodd ei ethol yn ddirprwy arweinydd.

Roedd wedi dechrau gweithio yn 15 oed yn 1957 gyda'r Bwrdd Glo ac yn y pen draw daeth yn rheolwr yng nglofa Oakdale.

Pan gaeodd y lofa fe symudodd i weithio i Ymddiriedolaeth Busnes Ifanc y Tywysog yn 1993 fel rheolwr rhanbarthol De Cymru, gan helpu dros 300 o bobl ifanc dan anfantais sefydlu eu busnesau eu hunain.

Ymgyrch lwyddiannus

Yn 1996 fe ddaeth yn Gyfarwyddwr Datblygu Ymddiriedolaeth Datblygu Tredegar a bu'n helpu adfywio'r dre.

Yn 2012 dywedodd ei fod yn falch ei fod wedi arwain yr ymgyrch lwyddiannus yn erbyn cau Ysgol Gyfun Oakdale, gweld datblygiad Parc Busnes Oakdale ar hen safle'r lofa, a'r ffaith mai Caerffili oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i lunio Cytundeb Tâl Statws Sengl a chyflwyno cyflog cyfartal i weithwyr benywaidd â thâl isel.

Ymhlith ei lwyddiannau roedd rhewi'r dreth gyngor am ddwy flynedd yn olynol, yr unig awdurdod yng Nghymru sydd wedi llwyddo i wneud hyn, cyflwyno cynllun prentisiaeth a hyfforddiant o fewn y cyngor, ac ailddatblygu ac adfywio canol trefi megis canolfan y glowyr yn y Coed Duon, llyfrgelloedd a chanolfannau ym Margoed, Abercarn a Chaerffili.