'Gormod o amser' i gyfiawnder

Michael O'Brien
Image caption Cafodd Michael O'Brien a dau ddyn arall eu carcharu ar gam cyn i lys wrthdroi'r euogfarnau

Mae'r AS Elfyn Llwyd wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn pryderu fod Heddlu De Cymru'n cymryd gormod o amser i gyhoeddi adroddiad i'r ffordd gafodd ymchwiliad i achos llofruddiaeth Phillip Saunders ei gynnal.

Roedd yr achos yn un o'r achosion gwaethaf o anghyfiawnder ym Mhrydain. Treuliodd dri dyn o Gaerdydd ddegawd yn y carchar ar ôl cael eu cyhuddo ar gam o lofruddio Mr Saunders yn 1987.

Mae un o'r dynion, Michael O'Brien, yn honni bod tystiolaeth wedi ei ffugio gan swyddog o Heddlu De Cymru.

Yn dilyn ei gwynion mi sefydlodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) Ymgyrch Resolute yn 2010.

Achos bod y digwyddiadau wedi digwydd cyn i'r IPCC gael ei sefydlu, dim ond medru 'goruchwylio' Ymgyrch Resolute oedden nhw. Does ganddyn nhw chwaith ddim y pŵer i gyhoeddi'r hyn wnaethon nhw ddarganfod.

Heddlu De Cymru sydd â'r pŵer i wneud hynny.

Mae comisiynydd heddlu a throsedd De Cymru, Alun Michael, yn mynnu nad oes oedi a bod yr adroddiad yn dal yn y broses o gael ei pharatoi.

'Dylen nhw frysio'

Image caption Mae Mr Llwyd yn aelod o Bwyllgor Cyfiawnder San Steffan

Mis Hydref diwethaf mi ofynnodd BBC Cymru i'r heddlu am gopi o adroddiad Ymgyrch Resolute. Dydd Llun fe wrthodon nhw'r cais.

Dywedodd y llu mai eu bwriad oedd "cyhoeddi'r adroddiad yma mewn cymaint o fanylder ag sy'n bosibl".

Yn ôl Mr Llwyd, mae'r broses yn cymryd gormod o amser.

Dywedodd: "Pa mor hir fydd hyn yn cymryd? Mae wedi cymryd bron i bedair blwyddyn yn barod.

"A faint o olygu fydd wedi ei wneud iddo? Rwyf wedi gweld dogfennau sydd wedi cael eu golygu i raddfa hurt.

"Os ydyn nhw wedi golygu tu hwnt i'r pwynt o synnwyr cyffredin yna does dim datgelu o gwbl ac rydym yn ôl i'r lle ddechreuon ni.

"Mae 'na hen ddywediad yn dweud bod oedi am gyfiawnder yn golygu bod cyfiawnder yn cael ei wrthod.

"Dw i'n meddwl y dylen nhw frysio, ei gyhoeddi fo a cheisio dechrau'r daith i adfer hyder a pharch pobl tuag at Heddlu De Cymru."

'Tryloywder yn hanfodol'

Er eu bod nhw'n cydnabod angen ystyried budd y cyhoedd, eu dadl nhw oedd y byddai cyhoeddi darnau ohono yn medru tanseilio unrhyw ymgais i ddal llofrudd Phillip Saunders, "er mor annhebygol mae'n ymddangos fydd erlyniad".

Fe ddywedon nhw hefyd fod yr adroddiad yn cynnwys data o natur sensitif a phersonol.

Fe ddywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru Peter Vaughan wrth BBC Cymru nos Iau: "Rydw i wedi siarad gyda'r comisiynydd heddlu a throsedd ynglŷn â chyhoeddiad yr adroddiad yma, ac yn cytuno ag ef ei fod yn hanfodol fod tryloywder yn y ffordd rydym yn ymdrin â'r cyhoeddi.

"Wrth gwrs fod raid i ni barchu'r fframwaith cyfreithiol y cafodd ei ddefnyddio ar gyfer creu'r adroddiad a sicrhau fod pawb sy'n cael eu henwi neu oedd yn rhan o'r peth yn cael eu trin yn deg, ond mae'n rhaid i ni hefyd feddwl am y diddordeb cyhoeddus sydd yn yr achos.

"Mae Heddlu De Cymru'n falch o fod yn sefydliad agored a thryloyw ac mae'n parhau i fod yn fwriad i ni gyhoeddi'r adroddiad yma mewn cymaint o fanylder â phosib."

Dim oedi o gwbl

Ar raglen Taro'r Post ar Radio Cymru fore Gwener, bu Comisiynydd heddlu a throsedd De Cymru, Alun Michael, yn ymateb i'r pryderon, gan ddweud y bydd popeth y gellir ei gyhoeddi yn cael ei gyhoeddi.

Dywedodd bod yr adroddiad yn cael ei baratoi ar hyn o bryd, a bod dim oedi o gwbl gan nad oedd y broses gyfreithiol wedi gorffen tan ychydig wythnosau'n unig yn ôl.

Fe fydd yr adroddiad yna'n mynd i'r IPCC cyn cael ei gyhoeddi.

Mynnodd na fyddai fawr o olygu ar yr adroddiad a bod y rhain yn faterion cyfreithiol cymhleth iawn.

Dywedodd hefyd ei fod yn siomedig gydag Elfyn Llwyd ac "y byddai'n egwyddor dda i ofyn cwestiynau a chael y ffeithiau yn gyntaf".

Cyfiawnder

Image caption Bu farw Phillip Saunders yn yr ysbyty bum niwrnod wedi ymosodiad arno yn 1987

Cafodd Phillip Saunders ei ladd yn dilyn lladrad ac ar ôl iddo gael ei daro ar ei ben tu allan i'w dŷ yn ardal Treganna yng Nghaerdydd mis Hydref 198

Roedd yn rhedeg siop bapurau yng nghanol y ddinas ac mi oedd o newydd gyrraedd adref gyda'r arian yr oedd o wedi casglu o'r siop y diwrnod hwnnw.

Cafodd Michael O'Brien, oedd yn 20 oed ar y pryd, Ellis Sherwood a Darren Hall, oedd ill dau yn 19 eu canfod yn euog o'i lofruddiaeth yn 1988.

Mi wnaethon nhw dreulio 11 mlynedd yn y carchar tan i'w dedfrydau gael eu gwyrdroi yn y llys apêl.

Darn allweddol o'r erlyniad gwreiddiol oedd cyfaddefiad Darren Hall a wnaeth gysylltu Michael O'Brien ac Ellis Sherwood gyda'r achos.

Ond mi glywodd y llys apêl nad oedd cyfaddefiad Mr Hall yn ddibynadwy am ei fod yn dioddef o anhwylder personoliaeth.

Cafodd cwestiynau difrifol eu codi yn y llys hefyd am swyddogion Heddlu De Cymru yn ystod yr ymchwiliad. Roedd cyhuddiadau fod y dynion ddim wedi cael caniatâd i gael cyfreithwyr a'u bod wedi eu trin yn wael wrth gael eu holi.

Mae Michael O'Brien wastad wedi mynnu bod yr erlyniad yn faleisus a bod tystiolaeth wedi ei ffugio gan Swyddog o Heddlu De Cymru sydd erbyn hyn wedi ymddeol, sef Stuart Lewis.

Yn ystod yr achos mi ddangosodd Mr Lewis gofnodion o sgwrs yr oedd o yn honni i fod wedi ei chlywed rhwng Michael O'Brien ac Ellis Sherwood.

Roedd ei adroddiad yn gyfystyr â bod y ddau yn cyfaddef i'r llofruddiaeth.

Yn 2012 mi benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd y dystiolaeth "yn agos i fod yn ddigon" i allu bod yn sicr o gyhuddo Stuart Lewis yn llwyddiannus.

Ym mis Tachwedd y llynedd mi ddywedodd yr Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas fod y penderfyniad hwnnw yn "rhesymol ac yn gywir".

Mae Heddlu De Cymru wastad wedi mynnu bod eu holl swyddogion wedi gweithredu'n ddidwyll.

'Nid dyna pwy ydw i'

Mae Michael O'Brien wedi dweud na fydd o yn cymryd unrhyw gamau pellach yn erbyn Heddlu De Cymru na Stuart Lewis. Ond mae o yn teimlo y dylai adroddiad Ymgyrch Resoulte gael ei gyhoeddi.

"'Dw i yn meddwl y dylai'r adroddiad fod ar gael i'r cyhoedd achos mae'n rhaid cael tryloywder ac os yw'r heddlu eisiau i bobl fod gyda hyder ynddyn nhw unwaith eto mae'n rhaid iddyn nhw gael ei gweld yn gwneud y peth iawn."

"'Dw i'n credu trwy gyhoeddi'r adroddiad y bydd hyn yn helpu i wneud hynny a dw i'n meddwl bod hynny yn bwysig iawn ar gyfer hyder y cyhoedd.

"'Dw i'n meddwl bod hi yn amser i fi symud ymlaen ac os byddan nhw yn gwneud hyn bydd hynny yn dod a'r holl beth i ben ac mi fyddai yn symud ymlaen.

"'Dw i ddim eisiau i bobl feddwl mod i yn berson drwg fyddai yn mynd ati i ladd rhywun achos nid dyna pwy ydw i.

"A dw i'n credu yn y broses o wella pethau rhwng y fi a Heddlu De Cymru fod cymodi yn bwysig i fi achos o'n i wastad yn credu yn yr heddlu cyn i hyn ddigwydd.

"Dw i ddim yn meddwl bod swyddogion yr heddlu i gyd yn bobl ddrwg. Mewn unrhyw sefydliad chi'n mynd i gael pobl yn gwneud pethau a'r cyfan 'dw i erioed wedi bod eisiau ydy atebolrwydd, nid pardduo Heddlu De Cymru jest er mwyn eu pardduo nhw."7.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.