Dim punt i Alban annibynnol

Osborne
Image caption Roedd Mr Osborne yn siarad wrth i'r Trysorlys gyhoeddi eu dadansoddiad diweddaraf o undeb ariannol

Mae tair prif blaid San Steffan wedi dweud na fydd gan Alban annibynnol yr hawl i gadw'r bunt.

Dywedodd y Canghellor George Osborne nad oedd "rheswm cyfreithiol" i weddill y Deyrnas Unedig fod eisiau rhannu'r un arian â gwlad annibynnol newydd.

Mae geiriau Mr Osborne wedi cael eu hategu gan Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond tacteg i geisio "bwlio" pleidleiswyr dros bleidleisio yw hyn, yn ôl Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond.

Dywedodd hefyd y byddai San Steffan yn gorfod derbyn y baich o fod yn gyfrifol am ddyled gyfan y DU petai undeb ariannol yn cael ei wrthod.

'Troi cefn ar y bunt'

Mae papur gwyn Llywodraeth yr Alban, sy'n datgelu eu gweledigaeth ar wlad annibynnol yn dilyn y bleidlais ar Fedi 18, yn dweud y byddai undeb ariannol rhwng y ddwy wladwriaeth yn bwysig ar gyfer galluogi busnesau i barhau i weithio'n llwyddiannus.

Maen nhw'n dweud y byddai hyn o fudd i weddill y DU a'r Alban, ac y byddai San Steffan ar eu hennill o gyd-weithio gyda gwlad sy'n berchen ar lawer o olew a nwy.

Ond yn ei araith yng Nghaeredin fe ddrylliodd George Osborne y posibilrwydd o undeb ariannol.

Dywedodd: "Nid ased i'w rannu rhwng dwy wlad ar ôl iddyn nhw wahanu fel casgliad cryno-ddisgiau yw'r bunt.

"Os yw'r Alban yn troi cefn ar y DU, mae'n troi cefn ar bunt y DU.

"Does dim rheswm cyfreithiol pam y byddai rhaid i weddill y DU rannu ei harian gyda'r Alban."

Ychwanegodd Mr Osborne: "Mae'r DU yn tyfu'n gynt nag unrhyw economi ddatblygedig arall yn Ewrop, ac o fewn yr Undeb, mae'r Alban yn tyfu'n gynt na'r gweddill.

"Ni fyddai dim yn gallu bod yn fwy niweidiol i ddiogelwch economaidd yma yn yr Alban na rhannu ein Teyrnas Unedig."

'Ymgais i fwlio'

Mae Alex Salmond wedi gwrthod yr hyn mae Mr Osborne wedi ei ddweud, gan awgrymu y byddai'n newid ei feddwl pe byddai'r Alban yn pleidleisio o blaid.

Dywedodd: "Ymgais yw hwn gan sefydliad San Steffan, wedi ei arwain gan y Torïaid, i fwlio a chodi ofn. Ond bydd eu hymdrechion i geisio hawlio perchnogaeth o'r sterling yn gweithio yn eu herbyn o ran ymateb pobl yr Alban, sydd yn gwybod fod y bunt yn berchen iddyn nhw gymaint â mae'n berchen i Mr Osborne.

"Mae honiadau Mr Osborne wedi eu selio ar gartŵn o undeb ariannol yn hytrach na be fyddai realiti'r sefyllfa, a dyw ei honiadau, er enghraifft ynglŷn â maint sector fancio'r Alban, ddim yn adlewyrchu'r gwirionedd."

Ychwanegodd: "Y reality yw bod undeb ariannol gydag ardal lle mae'r sterling yn cael ei rannu heb os nac oni bai o fudd i economi gweddill y DU ar ôl pleidlais Ie, a bydd agwedd unrhyw lywodraeth DU yn wahanol iawn ar ôl pleidlais Ie o'i gymharu â'r rhethreg ymgyrchu rydym yn ei glywed nawr.

"Byddai gwneud fel arall yn golygu gweld canghellor San Steffan, o ba bynnag blaid, yn sefyll ar blatfform sydd nid yn unig yn hollol wahanol i farn y cyhoedd yn yr Alban a gweddill y DU, ond fyddai hefyd yn niweidio economi gweddill y DU, gan y byddai'n costio miliynau o bunnoedd y flwyddyn i'w busnesau, yn chwythu twll anferth yn eu cydbwysedd taliadau ac yn eu gweld yn gorfod cymryd cyfrifoldeb dros holl ddyled y DU."

Ymyrraeth y gwasanaeth sifil

Mewn symudiad sydd wedi cael ei alw'n un "trawiadol ar y naw" gan olygydd gwleidyddol y BBC Nick Robinson, mae Mr Osborne wedi cyhoeddi'r cyngor sydd wedi cael ei roi gan ysgrifennydd parhaol y Trysorlys, Syr Nicholas Macpherson.

Mae ei gyngor yn dweud:

  • Fod undebau ariannol rhwng gwladwriaethau annibynnol yn "llawn anawsterau";
  • Bod undebau o'r fath fel arfer yn digwydd pan mae dwy wlad eisiau gweithio'n agosach, nid pan maen nhw yn y broses o ymbellhau;
  • Er mwyn bod yn llwyddiannus byddai rhaid i aelodau o'r undeb sicrhau fod pobl yn credu ei bod yn un tymor hir, a bod y ffaith bod Llywodraeth yr Alban wedi dweud y byddan nhw'n ystyried opsiynau eraill yn y tymor hir yn tanseilio hyn;
  • Bod sector fancio'r Alban yn "llawer rhy fawr" o'i gymharu â'i hincwm a bod risg i'r DU orfod bod yn gyfrifol am y risg fyddai'n dod yn sgîl hynny;
  • Nad yw bygythiad Llywodraeth yr Alban y byddai rhaid i'r DU gymryd y ddyled gyfan, os nad yw undeb ariannol yn cael ei sefydlu, yn un "gredadwy".

Nid yw'r rhesymau hyn yn ddigon er mwyn gwrthod undeb ariannol, yn ôl Nicola Sturgeon, dirprwy brif weinidog yr Alban, gan fod y manteision yn fwy na'r problemau allai godi.

"Mae rhesymau cryf ac ymarferol pam y byddai parhau i ddefnyddio'r un arian o fudd i bobl dros weddill y DU," meddai."

Dywedodd fod y rhain yn cynnwys y ffaith bod gwerth £60 biliwn o gynnyrch yn mynd o Loegr i'r Alban bob blwyddyn, a byddai cael arian gwahanol yn y ddwy wlad felly yn "costio cannoedd o filiynau o bunnoedd i Loegr mewn costau".

Ychwanegodd Ms Sturgeon: "Ar hyn o bryd mae allforio olew a nwy yn cyfrannu rhyw £30 biliwn i gydbwysedd taliadau'r DU. Os nad oes gennym ni undeb ariannol mi fyddai hynny'n cael ei dynnu o gydbwysedd taliadau'r DU a byddai eu dyled yn mynd drwy'r to ac yn cael effaith ar werth y sterling."

Straeon perthnasol