Ymateb i gynllun ad-drefnu gwasanaethau iechyd y de

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi gwrthod y cynllun i israddio gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Image caption Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi gwrthod y cynllun i israddio gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae gwleidyddion wedi bod yn ymateb i'r newyddion fod pedwar allan o'r pump bwrdd iechyd sy'n weithredol yn ne Cymru wedi cefnogi cynllun i ad-drefnu gwasanaethau arbenigol yn yr ardal.

Penderfynodd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro a Phowys gefnogi'r cynllun i ganoli gwasanaethau mewn pum ysbyty ar draws y rhanbarth.

Mae'r gwrthbleidiau i gyd wedi datgan eu gwrthwynebiad i'r cynllun, fyddai'n arwain at ostwng nifer yr ysbytai sy'n cynnig gwasanaethau gofal brys lefel uchel a gofal arbenigol i famau, babanod a phlant.

Maen nhw'n rhybuddio y gall cleifion wynebu risgiau uwch os ydyn nhw'n gorfod teithio ymhellach am driniaeth.

'Proses boenus'

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, sy'n Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru:

"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn nodi dechrau proses boenus o dynnu gwasanaethau damweiniau ac argyfwng hanfodol o'n cymunedau yn y cymoedd.

"Mae gofal brys damwain ac argyfwng yn wasanaeth iechyd sylfaenol fel y mae gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddyg ymgynghorol a dylai pawb fod yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hyn mor gyflym ac mor lleol â phosibl.

"Mae cyhoeddi y bydd tri chynghrair, yn seiliedig o gwmpas Abertawe, Caerdydd a Chwmbrân, yn awgrymu bod penaethiaid iechyd yn rhoi'r gorau i ddarparu gwasanaethau priodol yn agos i nifer o'n cymunedau - gan gynnwys y rhai difreintiedig."

'Ergyd chwerw'

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams:

"Bydd nifer o'r newidiadau yma'n ergyd chwerw i bobl leol. Rwy'n bryderus fod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu unwaith eto.

"Mae'r cynlluniau ad-drefnu yma ar gyfer y GIG yn ne Cymru wedi'u canoli ar y ganolfan newydd yng Nghwmbrân - heb hwnnw mae'r cynlluniau yma'n ddiwerth.

"Mae'n warthus bod pobl yn clywed y bydd gwasanaethau iechyd lleol yn cael eu hisraddio cyn i ni gael unrhyw wybodaeth sut y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn talu am yr ysbyty newydd yma.

"Lle maen nhw'n mynd i ddod o hyd i'r £242 miliwn sydd angen i'w adeiladu?"

'Cymunedau sy'n dioddef'

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar AC, bod y newidiadau yn ei bryderu yn fawr.

"Mae'r Blaid Lafur wedi torri addewid wnaethon nhw cyn yr etholiad, ac maen nhw nawr yn caniatáu israddio ysbytai, yn enwedig yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a bydd yn golygu israddio gwasanaethau gofal brys ac israddio gofal babanod a phlant.

"Mae'n gyfnod pryderus iawn i'r bobl sy'n cael eu gwasanaethu gan yr ysbyty yna yn benodol..."

Dywedodd bod gwasanaethau y gellir eu hisraddio gyda llai o effaith ar gleifion, gan gynnwys llawdriniaethau sydd ddim yn achosion brys.

Ychwanegodd bod angen buddsoddiad "sylweddol" yn y GIG yng Nghymru gan y llywodraeth.

"Rydyn ni wedi gweld toriadau enfawr gan y Llywodraeth Lafur dros y blynyddoedd diwethaf, a gallwch chi ddim tynnu hanner biliwn o bunnau allan o wasanaeth iechyd i dair miliwn o bobl a pheidio disgwyl cael effaith ar wasanaethau.

"Beth rydyn ni'n weld yw canlyniadau'r penderfyniad yma, ac yn anffodus cymunedau sy'n dioddef."

'Syfrdanu'

Mae ymateb gwleidyddion lleol ar wefan Twitter wedi bod yn feirniadol dros ben.

Dywedodd Aelod Seneddol y Rhondda Chris Bryant: "Rwyf wedi syfrdanu bod bwrdd SWP wedi penderfynu cadarnhau Opsiwn 3. Mae hyn yn herio'r ffeithiau!"

Un arall sydd wedi ymgyrchu dros gadw Ysbyty Brenhinol Morgannwg yw'r aelod cynulliad lleol Leighton Andrews a ddywedodd: "Gofynnais nifer o gwestiynau yng nghyfarfod SWP ... daeth cadarnhad bod cleifion Cwm Taf yn teithio i'r de nid i'r gorllewin na'r dwyrain.

"Mae'n golygu mwy o bwysau ar Ysbyty Athrofaol Caerdydd os bydd pethau'n newid yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae'r cyflwyniad yn codi mwy o gwestiynau.

"Rwy'n siomedig iawn bod SWP wedi cadarnhau Opsiwn 3.

"Mae ffyrdd mynyddig Y Rhigos a Maerdy ar gau heddiw felly fyddai ambiwlansys yn sicr ddim yn mynd i Ferthyr o'r Rhondda."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.