Dod o hyd i gorff ger y Bontfaen

Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod yn farw yn ardal Brychdwn ger y Bontfaen ym Mro Morgannwg.

Fe gafodd yr heddlu eu galw yno toc cyn 10:00 fore Gwener.

Mae'r heddlu wedi gosod cadwyn o amgylch y lleoliad ac mae swyddogion yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth y dyn.

Does dim gwybodaeth bellach ar hyn o bryd.