Cynnig cymorth wedi llifogydd yn y Rhyl

Llifogydd Rhyl Image copyright Reuters
Image caption Mae rhai'n dal i aros i gael dychwelyd i'w cartrefi yn dilyn difrod y llifogydd fis Rhagfyr

Ddydd Sadwrn, bydd sesiwn galw draw yn cael ei gynnal i drigolion gafodd eu heffeithio gan lifogydd yn y Rhyl yn ddiweddar.

Yn ystod y tywydd garw fis Rhagfyr, cafodd tua 150 o gartrefi eu heffeithio gan y llifogydd yn y Rhyl, a bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi.

Mae nifer yn dal i aros i gael dychwelyd adref - a rhai'n credu y byddan nhw'n aros tan yr hydref.

Yn y sesiwn, bydd y cyngor, sefydliadau partner a phrosiect ARK Sir Ddinbych yn gobeithio rhoi gwybod i bobl pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw yn y misoedd sydd i ddod, wrth fynd drwy'r broses o drwsio'r difrod.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr Orsaf Dân Gymunedol rhwng 10am a 2pm.

Trafod profiadau

Ymysg y wybodaeth ar gael, bydd newyddion am y camau sydd ar waith er mwyn gostwng bygythiad llifogydd yn y dyfodol a chyngor ar sut i amddiffyn eiddo rhag llifogydd.

Fe fydd cyfle hefyd i gael sgwrs ynglŷn â'u profiadau yn ystod, ac ar ôl, y llifogydd.

Mae Maer y dre'n dweud ei bod hi'n bwysig nad ydy'r rhai gafodd eu heffeithio'n cael eu hanghofio.

Dywedodd Andrew Rutherford: "Mae rhai wnaeth orfod gadael eu cartrefi yn aros mewn gwersylloedd gwyliau neu chalets yn yr ardal."

'Wynebu problemau'

Ychwanegodd y Maer fod nifer o deuluoedd oedd yn credu eu bod nhw wedi osgoi'r difrod, rwan yn wynebu problemau gyda seiliau eu cartrefi.

"Mae'r holl ddŵr aeth o dan y tai yn golygu eu bod nhw'n gorfod ail-osod eu seiliau.

"Mae ambell un wedi gorfod gadael eu tai er mwyn ail osod lloriau...

"Rydyn ni'n dal i glywed am ragor o bobl yn cael eu heffeithio, felly mae'n amser anodd."

Mae grantiau o £100 wedi cael eu dosbarthu yn dilyn ymgyrch i gasglu arian i rai gafodd eu heffeithio waethaf gan y llifogydd.

Dywedodd Mr Rutherford y gall y grantiau helpu, er eu bod nhw'n ymddangos yn fychan.

"Ro'n i'n siarad 'efo rhywun ychydig ddyddiau 'nol, cwpwl oedrannus. Roedden nhw wedi cael bil o £80 ar eu ffôn symudol wrth geisio cysylltu hefo'r cwmni yswiriant.

"Mae'n helpu i dalu am hynny - o leia' mae'n rhywbeth y gallwn ni fel cymuned ei roi yn ôl."

Straeon perthnasol