Caerdydd 1 - 2 Wigan

Wigan v Caerdydd Image copyright Getty Images
Image caption Saethodd Ben Watson o 25 llath i sgorio'r gôl fuddugol i Wigan

Wigan fydd yn symud ymlaen i rownd yr wyth olaf yng nghystadleuaeth Cwpan yr FA ar ôl curo Caerdydd yn Stadiwm y Ddinas.

Chris McCann sgoriodd gyntaf i'r ymwelwyr gan rwydo o groesiad Jordi Gomez i roi'r tîm o'r Bencampwriaeth ar y blaen.

Daeth Caerdydd yn ôl 10 munud yn ddiweddarach gyda'u cyfle cyntaf yn y gêm.

Llwyddodd Wilfried Zaha, y gŵr ar fenthyg o Manchester United, i gyrraedd y cwrt cosbi, ac wedi i Wigan fethu â delio a'i ergyd, roedd Fraizer Campbell yno i rwydo i'r gornel chwith.

Roedd y tîm cartref yn methu manteisio, ac aeth y Latics ar y blaen bum munud cyn yr egwyl drwy Ben Watson.

Watson sgoriodd y gôl fuddugol wrth i Wigan ennill y gystadleuaeth y llynedd, a saethodd o 25 llath heibio golwr Caerdydd, David Marshall.

Cafodd Juan Cala gyfle i ddod â Chaerdydd yn gyfartal eiliadau wedyn, ond doedd ei ergyd ddim digon da i basio Ali Al-Habsi.

Aeth Zaha i lawr yn y cwrt cosbi yn yr ail hanner wedi tacl gan Emmerson Boyce, ond nid oedd y rheolwr am roi cic o'r smotyn.

Er i'r Adar Gleision roi pwysau tua diwedd y gêm, llwyddodd Al-Habsi i gadw ergyd Zaha allan, a doedd Craig Noone methu trafferthu'r golwr yn yr eiliadau olaf.

Caerdydd 1 - 2 Wigan

Caerdydd: Marshall, Theophile-Catherine, Caulker, Cala, Taylor, Medel, Eikrem, Daehli, Berget, Zaha, Campbell.

Eilyddion: Turner,Kim, Noone, Gunnarsson, Cowie, Lewis, John.

Wigan: Al Habsi, Boyce, Ramis, McCann, Perch, Watson, Espinoza, Beausejour, Gomez, McManaman, Fortune.

Eilyddion: Holgersson, Crainey, McEachran, Rogne, McClean, Nicholls, Barnett.

Straeon perthnasol