Llifogydd: cyhoeddi cynllun newydd

Llifogydd
Image caption Dywedodd Alun Davies bod angen rheoli dŵr yn well i geisio osgoi llifogydd

Mae Gweinidog Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, Alun Davies, wedi cyhoeddi cynllun newydd a £900m i geisio mynd i'r afael a newid hinsawdd yng Nghymru.

Mae rhannau o Gymru yn parhau i fod mewn perygl o lifogydd, er bod seibiant yn y tywydd garw ddydd Sul.

Mae un rhybudd am lifogydd yn dal i fod mewn grym yn Nyffryn Dyfrdwy ger Llangollen, tra bod nifer o rybuddion i bobl fod yn wyliadwrus.

Dywedodd Prif Weinidog y DU, David Cameron bod y sefyllfa yn debygol o waethygu cyn iddo wella.

£900m

Yn siarad ar y Sunday Supplement, dywedodd Alun Davies bod angen trafodaeth a chynllun i sicrhau bod Cymru yn gallu "ymdopi" hefo newid hinsawdd.

Dywedodd bod angen edrych ar y ffordd mae dŵr yn cael ei reoli yng Nghymru, yn enwedig y ffordd mae tiroedd uchel yn cael eu draenio yn fwy aml erbyn heddiw, all arwain at fwy o lifogydd mewn ardaloedd is.

"Bydd y cynllun yn cryfhau ac yn buddsoddi yn yr economi wledig, ond hefyd yn buddsoddi yn amgylchedd Cymru ac mewn rheolaeth gynnaladwy o'r tir.

"Mae ganddo ni gyfrifoldeb i reoli ein tir yn y ffordd gywir, rydyn ni'n son am y Gwy a'r Hafren, ond hefyd y Tawe a'r Taf ac afonydd ar draws Gymru hefyd.

"Ac mae hefyd am reoli ein dŵr mewn ardaloedd trefol.

"Mae'n bwysig cael amgylchedd sy'n gallu amsugno dŵr, yn hytrach nag amgylchedd galed lle mae dŵr yn llifo i'r system garthffosiaeth."

Mae disgwyl i'r gweinidog fanylu ar y cynllun ddydd Llun.

1,000 heb bwer

Yn ol Scottish Power mae dros 1,000 o gartrefi yn dal i fod heb drydan yn y canolbarth a gogledd Cymru, wedi stormydd nos Fercher a Gwener.

Un sydd heb drydan yw Portia Kennoway o Langollen, sydd wedi bod heb bŵer ers dydd Mercher.

Dywedodd Ms Kennoway ei bod hi'n poeni am yr anifeiliaid ar ei fferm, gan eu bod nhw'n dibynnu ar bwmp trydan ar gyfer eu cyflenwad dŵr.

"Rydyn ni'n poeni am beth fydd yn digwydd i'r anifeiliaid os nad ydyn ni'n llwyddo i gario digon o ddŵr i'w cadw nhw'n fyw," meddai.

"A hynny i gyd tra'n ceisio delio hefo clirio miloedd o goed oddi ar ffensys ac adeiladau.

"Rydyn ni wedi blino, yn oer, heb ymolchi, ac yn poeni am ein hanifeiliaid.

"Mae pobl wedi anghofio amdanom ni wedi i ni ddioddef peth o'r difrod gwaethaf yn y DU nos Fercher."

Dywedodd Scottish Power: "Rydyn ni'n ymddiheuro i bob cwsmer sydd wedi cael problemau gyda'i cyflenwadau.

"Cafodd y gwyntoedd effaith waeth ar ogledd Cymru na unman arall, gan achosi difrod sylweddol.

"Mae'r math o waith sy'n cael ei wneud fel arfer yn cymryd sawl diwrnod yr un i gwblhau. Mae tua 140,000 o adeiladau wedi eu hail-gysylltu ers y storm."

Straeon perthnasol