Achub dyn wedi eirlithrad ar y Wyddfa

Achub cerddwr
Image caption Roedd dros 30 o aelodau o'r tîm achub yn rhan o'r digwyddiad

Roedd rhaid i Dim Achub Mynydd Llanberis achub dyn oedd wedi cael ei daro'n anymwybodol ar yr Wyddfa ddydd Sadwrn.

Cafodd y dyn a'i bartner ei sgubo 1,000 troedfedd (305m) i lawr y mynydd gan eirlithrad.

Cafodd ei ddarganfod gan y tîm achub wedi ei gladdu mewn 4 troedfedd o eira.

Cafodd y dyn 28 oed o Fryste ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty ym Mangor.

Roedd dros 30 o aelodau o'r tîm achub yn rhan o'r digwyddiad, gan gynnwys rhai o dîm Aberglaslyn.

Image caption Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd

Cafodd y dyn ei daro yn anymwybodol am tua 15 munud, a dywedodd ei fod yn dioddef o boen yn ei gefn.

Cafodd ei gario i lawr y mynydd, lle roedd hofrennydd yn aros amdano.

Roedd chwech o bobl eraill hefyd wedi cael eu heffeithio gan yr eirlithrad, ond ni chawson nhw anafiadau.

Straeon perthnasol