Protest Cymdeithas yn dod i ben

protest Cyffordd Llandudno
Image caption Roedd y brotest y tu allan i adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno

Mae protest gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg y tu allan i adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghyfford Llandudno wedi dod i ben.

Fe ddywedodd y Gymdeithas bod chwech o'u haelodau wedi clymu eu hunain gyda chadwyni i giatiau adeilad llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod wedi cael eu galw i ddigwyddiad yno.

Dywedodd y Gymdeithas mewn datganiad eu bod yn protestio yn erbyn "methiant Llywodraeth Cymru i ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad (2011)" oedd yn dangos dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

Ychwanegodd y mudiad bod y weithred yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau fydd yn cael eu trefnu dros y gwanwyn i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Rydym yn siomedig iawn bod Cymdeithas yr Iaith wedi penderfynu gweithredu yn y modd hwn, yn enwedig gan ein bod ni wedi cynnal deialog rheolaidd, ac adeiladol, gyda'r grŵp.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cymryd camau cadarnhaol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg, gan gynnwys camau pwysig fel cyhoeddi safonau arfaethedig i wella gwasanaethau Cymraeg i bobl.

"Nid ni yn unig sy'n dweud hyn - dywedodd arbenigwyr Cyngor Ewrop yn ddiweddar bod Llywodraeth Cymru yn darparu ymrwymiad cryf i'r iaith."

Arestio

Ychwanegodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi arestio dyn ar y safle ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch.

Dywedodd llefarydd nad oedd y dyn yn rhan o'r grŵp sy'n protestio a'i fod yn ddyn lleol.

Wrth ddod â'r brotest i ben am hanner dydd heddiw, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae chwech ohonom wedi bod yma am chwe awr, fel symbol o'r angen i'r Llywodraeth gyflawni chwe newid polisi er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cryfhau dros y blynyddoedd i ddod.

"Dyma oedd ein gweithred uniongyrchol gyntaf i bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu'n gadarnhaol dros y Gymraeg, ac ni chafodd neb eu harestio.

"Byddwn ni'n parhau â gweithredoedd heddychlon o'r fath nes i'r Llywodraeth newid ei hagwedd a dechrau gweithredu fel bod pawb yn cael byw yn Gymraeg.

"Rydyn ni'n grediniol y gall ein hiaith unigryw ffynnu dros y blynyddoedd i ddod gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.