BAFTA i Gymro am ffilm gyntaf

Kieran Evans
Image caption Diolchodd Kieran Evans i'w deulu yng Nghymru

Enillodd y cyfarwyddwr o Gymru, Kieran Evans, wobr BAFTA am ffilm gyntaf neilltuol gan awdur, cyfarwyddwr neu gynhyrchydd o Brydain.

Daeth y wobr am ei ffilm Kelly + Victor sy'n adrodd hanes cwpwl ifanc ar ddechrau carwriaeth.

Derbyniodd Mr Evans, o Dyddewi yn Sir Benfro, y wobr mewn seremoni fawreddog yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain nos Sul a gafodd ei darlledu'n fyw ar BBC ONE.

Wrth dderbyn y wobr, diolchodd i'w deulu a'i gyfeillion o Gymru am eu cefnogaeth.