Rhybudd am e-sigarennau

e-sigarennau
Image caption Mae e-sigarennau ar gael mewn nifer o wahanol ffurf

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus wedi iddyn nhw gael eu galw i ddau achos o danau oedd wedi eu hachosi gan e-sigarennau yn ffrwydro.

Maen nhw'n dweud mai batris yr e-sigarennau wnaeth ffrwydro, gan "saethu hyd at ddwy fetr ar draws yr ystafell cyn glanio ar y carped a thanio".

Ni chafodd neb eu hanafu yn y ddau ddigwyddiad dan sylw ond mae rheolwr grŵp y sefydliad Phil Pinches yn galw ar bobl i gymryd gofal gyda'r teclynnau.

"Mae ymchwil wedi datgelu nifer o ddigwyddiadau ledled y DU dros y misoedd diwethaf," meddai, "ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn annog defnyddwyr i ddarllen y cyngor ar y daflen ddiogelwch a ddarperir gyda'r cynhyrchion hyn i leihau'r perygl".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.