Cynnig o £660,000 gan URC i'r pedwar rhanbarth

lansiad pro 12 Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Yn gynharach yn y mis dywedodd URC y bydden nhw'n ystyried benthyg dros dro i'r rhanbarthau

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cynnig benthyciad brys o £660,000 i'r pedwar rhanbarth rygbi yn wyneb problemau llif arian difrifol.

Roedd y pedwar rhanbarth - Gleision Caerdydd, Dreigiau Gwent, y Gweilch a'r Scarlets - wedi gobeithio derbyn taliad o £200,000 yr un gan gwmni ERC (European Rugby Cup) fis diwethaf am chwarae yn y Cwpan Heineken y tymor hwn.

Ond fe ddywedodd ERC nad oedd y taliad diweddaraf am gael ei wneud tan Chwefror 5, cyn newid y dyddiad i Chwefror 19, tra roedd dyfodol y cwmni yn cael ei drafod.

Bydd cyfarfod o fwrdd ERC yn cael ei gynnal yn Nulyn ddydd Mercher lle bydd y cwmni yn penderfynu os bydd yn rhyddhau gweddill y taliadau i'r rhanbarthau.

Hwn oedd yr ail daliad allan o bump i'r clybiau oedd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth y gwpan.

Mae BBC Cymru yn deall fod y rhanbarthau wedi wynebu problemau difrifol wrth geisio talu cyflogau chwaraewyr ym mis Ionawr, o achos y problemau llif arian.

Yn gynharach yn y mis fe ddywedodd Undeb Rygbi Cymru y bydden nhw'n ystyried cynnig benthyciad dros dro i'r rhanbarthau cyn belled â bod bwrdd yr Undeb a'r banc yn caniatáu hyn.

Mewn cyfarfod o fwrdd URC ddydd Mawrth fe gafodd y cais am gymorth arianol ei gadarnhau.

Straeon perthnasol