Rhys Webb i ddechrau yn lle Mike Phillips yn erbyn Ffrainc

Rhys Webb Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dywedodd Warren Gatland bod mewnwr y Gweilch, Rhys Webb yn rhoi "dimensiwn wahanol" i'r tîm

Rhys Webb fydd yn dechrau yn safle'r mewnwr wrth i Gymru chwarae Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener.

Mae Warren Gatland wedi ei ddewis o flaen Mike Phillips, sy'n dechrau ar y fainc.

George North sy'n symud i ganol y cae yn lle Scott Williams, gyda Liam Williams yn chwarae ar yr asgell.

Luke Charteris yw'r unig newid arall i'r tîm, wedi iddo wella o anaf i'w goes.

Phillips ar y fainc

Roedd awgrymiadau y gallai Gatland newid yr haneri wedi perfformiad siomedig Cymru yn erbyn Iwerddon.

Er hynny mae Rhys Priestland yn cadw ei le o flaen maswr y Gweilch, Dan Biggar.

Yn ôl y disgwyl mae George North yn symud i safle'r canolwr gyda Jamie Roberts, wedi i Scott Williams anafu ei ysgwydd yn Nulyn.

Liam Williams o'r Scarlets sy'n dechrau ar yr asgell chwith, gyda Leigh Halfpenny ac Alex Cuthbert yn cwblhau'r tri yn y cefn.

Y clo Luke Charteris yw'r unig newid ymysg y blaenwyr, gan gymryd lle Andrew Coombs.

Mae'r rheng flaen brofiadol o Gethin Jenkins, Richard Hibbard ac Adam Jones yn parhau gyda'i gilydd, a does dim newid yn y rheng ôl, lle bydd Sam Warburton a Dan Lydiate yn dechrau gyda Toby Faletau.

'Cyfle i wella'

Dywedodd Gatland bod y gêm yn un enfawr i'w dîm.

"Fel carfan mae ganddo ni lot fawr o brofiad yn y gystadleuaeth hon a byddwn yn galw ar hynny'r penwythnos yma.

"Rydyn ni'n gweld y gêm fel cyfle i ni wella'r sefyllfa.

"Mae Luke (Charteris) wedi bod yn gweithio yn galed iawn dros yr wythnosau diwethaf ac mae'n hwb i ni ei fod o yn ôl.

"Roeddwn i'n meddwl bod Rhys (Webb) wedi chwarae yn wych i'r Gweilch dros y penwythnos ac mae'n rhoi dimensiwn wahanol i ni, ac mae'n gyfle gwych iddo fo.

"Mae George (North) yn symud i ganol cae... Fe wnaeth o argraff dda pan chwaraeodd yna yn erbyn Awstralia yn yr Hydref.

"Bydd ei bartneriaeth gyda Jamie (Roberts) yn bwysig wrth i ni geisio stopio Ffrainc a Mathieu Bastareaud."

Cymru v Ffrainc, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, Chwefror 21, 20:00

Leigh Halfpenny (Gleision), Alex Cuthbert (Gleision), George North (Northampton Saints), Jamie Roberts (Racing Metro), Liam Williams (Scarlets); Rhys Priestland (Scarlets), Rhys Webb (Gweilch); Gethin Jenkins (Gleision), Richard Hibbard (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Luke Charteris (Perpignan), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton (Capt - Gleision), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Paul James (Caerfaddon), Rhodri Jones (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Dan Biggar (Gweilch), James Hook (Perpignan).

Straeon perthnasol