Rhagor o doriadau i wasanaethau bws?

Bws Arriva
Image caption Mae nifer o gynghorau'n dweud eu bod nhw'n ystyried cael gwared ar ragor o wasanaethau er mwyn arbed arian

Mae bron i 100 o wasanaethau bysiau oedd yn cael eu hariannu gan gynghorau lleol Cymru wedi dod i ben yn ystod y tair blynedd diwethaf - bron i un mewn chwech.

Nawr, mae BBC Cymru yn deall fod toriadau pellach ar y gweill wrth i gynghorau ddod dan bwysau i wneud arbedion ariannol.

Mae nifer o gynghorau wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn cynnal adolygiadau sylfaenol o'u gwasanaethau bysiau ar hyn o bryd, wrth wynebu gostyngiad yn eu cyllidebau.

Gofynnodd BBC Cymru i holl gynghorau Cymru am wybodaeth yn rhan o gais Rhyddid Gwybodaeth. 19 o gynghorau ymatebodd i'r cais hwnnw.

Daeth y toriadau mwyaf i wasanaethau bysiau yn ardal Cyngor Sir Penfro, gydag 19 o lwybrau bysiau yn dod i ben rhwng 2011 a 2014. Llynedd fe gafodd pob un o'r gwasanaethau ar ddydd Sul oedd yn cael eu hariannu gan y cyngor, yn ogystal â gwasanaethau gyda'r nos, eu dirwyn i ben.

Gwneud arbedion

Mae'r cyngor yn rhybuddio y bydd angen torri gwasanaethau bysiau eraill mewn ymgais i wneud arbedion yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn ardal Wrecsam fe ddaeth 16 o wasanaethau bysiau i ben rhwng 2011 a 2014, ac mae'r cyngor yn y broses o gynnal adolygiad er mwyn dileu'r gwariant sydd yn cefnogi gwasanaethau bysiau lleol, mewn ymdrech i arbed £495,000 o gyllideb 2014/15.

Yng Ngwynedd fe ddaeth 10 llwybr bys i ben yn y tair blynedd diwethaf, gyda chwe gwasanaeth yn dod i ben ym Mhowys a'r un nifer ym Mlaenau Gwent.

Mae Elvera Harries a'i chwaer Alonwy Thomas yn byw yng Nghasblaidd, Sir Benfro. Mae'r ddwy yn ddibynnol iawn ar y gwasanaeth bysiau lleol yno, ac yn bryderus am unrhyw gynlluniau i gwtogi ar y gwasanaeth presennol.

Fe ddywedodd Ms Harries wrth BBC Cymru: "Dwi'n mynd i siopa yn Hwlffordd yn aml, yn Hwlffordd mae fy noctor i, mae'r deintydd yn Hwlffordd ac mae'r ysbyty yno ac rydw i'n mynd i ymweld â chleifion yn yr ysbyty, ac i mofyn pensiwn o'r post - 'dw i'n defnyddio'r gwasanaeth tipyn.

"Welen i ishe'r gwasanaeth yn ofnadwy petai fe'n cael ei dorri - bydde rhaid i mi ddefnyddio tacsi..."

'Pwysig iawn, iawn'

Meddai ei chwaer, Alonwy Thomas: "Mae'r gwasanaeth yn bwysig iawn, iawn. 'Dw i'n ei ddefnyddio fe bedair neu bump gwaith yr wythnos. Petai'r gwasanaeth yn cael ei dorri fydden ni ddim yn gwybod beth i'w wneud achos sai'n gyrru.

"I fynd i siopa neu weld y doctor - i wneud popeth dwi'n defnyddio'r bys. Mae 'na lot o bethe yn y cyngor allen nhw dorri nôl, ond nid ar y gwasanaeth bysus.

"Mae lot fawr o bobl yn dibynnu ar y gwasanaeth yng Nghasblaidd. Petai nhw'n torri nôl fe fydden ni yn y tŷ drwy'r amser."

Yn ôl Cyngor Sir Penfro mae'r cytundebau ar gyfer holl deithau bysiau allan i dendr ar hyn o bryd ac fe fydd angen gwneud toriadau o £167,000 yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Fis Rhagfyr y llynedd fe gyhoeddodd elusen Age Cymru adroddiad o'r enw 'Bysiau - gwasanaeth allweddol i bobl hyn'.

Gwaethygu?

Yn ôl yr adroddiad yma mae prinder gwasanaethau bysiau mewn nifer o gymunedau ac ar adegau penodol, ac mae hyn yn debygol o waethygu oherwydd toriadau mewn cefnogaeth i wasanaethau a chymhorthdal.

Dywedodd Iwan Rhys Roberts o Age Cymru: "Mae poblogaeth Cymru yn heneiddio yn gynt na phoblogaeth unrhyw ran arall o ynysoedd Prydain felly mae angen sicrhau bod ganddo ni wasanaethau sydd yn gallu darparu ar gyfer anghenion pobl hyn yng Nghymru rŵan ac yn y dyfodol.

"'Da ni yn teimlo byddai cwtogi ar wasanaethau fel bysys yn gam yn ôl ac yn y pen draw be' 'da ni yn 'neud ydy creu problemau yn y dyfodol.

"Trwy gwtogi gwariant rŵan 'da ni yn mynd i greu problemau i ni ein hunain ac i boblogaeth Cymru yn y dyfodol."

Cynnal adolygiad

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd i'r ffyrdd o ariannu gwasanaethau bysiau drwy Gymru yn y dyfodol.

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r gweinidog trafnidiaeth yn edrych ar ddulliau i ddarparu gwasanaeth bysiau effeithlon a chynaliadwy ar hyd Cymru ac mae wedi sefydlu Grŵp Bysiau Ymgynghorol i edrych ar ffyrdd newydd o ariannu'r gwasanaeth.

"Ond awdurdodau lleol sydd yn gyfrifol am benderfynu sut y maen nhw'n gwario'r arian yr ydym yn ei glustnodi ar eu cyfer, a phenderfynu pa wasanaethau i'w cefnogi ag ar ba lefel y maent am wneud hynny."

Straeon perthnasol