Arestio pump wedi lladrad ym Metws-y-coed

Mae pump o ddynion wedi cael eu harestio wedi lladrad mewn siop nwyddau awyr agored nos Fercher.

Torrodd lladron i mewn i siop Cotswold Outdoor ar Ffordd Caergybi, Betws y coed am 11.12yh nos Fercher.

Roedd hofrennydd yr heddlu yn chwilio cyn iddyn nhw gael eu harestio.

Daw'r pump rhwng 19 a 28 oed o Lannau Mersi.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio ditectifs yn Llanelwy ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.