ERC yn atal taliadau Cwpan Heineken eto

Cwpan Heineken
Image caption Mae dyfodol y Gwpan Heineken yn y fantol

Mae rhanbarthau rygbi Cymru wedi cael gwybod bod yr arian sy'n ddyledus iddyn nhw am chwarae yng Nghwpan Heineken wedi cael ei atal unwaith eto.

Mewn cyfarfod yn Llundain ddydd Mercher, penderfynodd trefnydd cystadleuaeth yr ERC (European Rugby Cup) oedi cyn talu timau o'r gwledydd sy'n cymryd rhan, wedi i'r ail gyfarfod bwrdd o fewn pythefnos ddod i ben heb gytundeb.

Mae cyfarfod arall i drafod y mater wedi ei drefnu ar gyfer Mawrth 11, a bydd cyfarfod o'r cyfranddalwyr yn cael ei gynnal y diwrnod blaenorol.

Mae trefnwyr Cwpan Heineken yn gobeithio y bydd y cyfranddalwyr yn gallu pwyso ar yr ERC i dalu'r arian i'r timau fu'n cystadlu.

Mae'r pedwar rhanbarth Cymreig yn disgwyl taliadau o £200,000 yr un ac wedi beirniadu'r ERC am yr oedi.

Ddydd Mawrth fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru gytuno i roi benthyciad di-log o £660,000 i'w rannu rhwng y Scarlets, y Gleision, y Dreigiau a'r Gweilch.

Roedd y clybiau wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn wynebu problemau difrifol o ran gallu talu eu chwaraewyr oherwydd nad oeddan nhw wedi derbyn yr arian Ewropeaidd.

Mae ansicrwydd ynglŷn â dyfodol Cwpan Heineken, gyda chlybiau Lloegr a Chymru'n ystyried bod yn rhan o gystadleuaeth newydd, a hynny sydd wrth wraidd y ffaith bod yr ERC yn gyndyn o dalu.

Yn ogystal mae ffrae rhwng Sky Sports a BT Sport - dros bwy sydd â'r hawl i ddangos pa bynnag gystadleuaeth Ewropeaidd fydd yn cael ei dangos y flwyddyn nesaf - yn ychwanegu at y dryswch.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.